Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byddai iddo son am yr helynt mwy, ac y byddai o'r dydd hwnw allan yn bob help a allai efe iddo i gario yr achos yn mlaen. Nobl o beth ydyw gweled helyntion fel yna yn cael eu culdo ymaith gan lifogydd o ddagrau! Owen Price, Tan-y-grisiau, hefyd, oedd yn hen gymeriad gwreiddiol. Wedi bod yn gwrando. ar ryw frawd lled sychlyd yn areithio ar ddirwest, dywedai wrth gyfaill dranoeth, y gallai efe areithio yn ei flaen yn ddiorphwys, a hyny am byth fel Hugh, ond i rywun ei dendio â bwyd. Yr oedd y brawd hwn yn hynod o gofus: pan y byddai yn myned i'r Cyfarfod Mísol i chwilio am gyhoeddiadau, byddai yn cofio. pa Sabbothau oedd yn weigion, a phwy a gai efe i bob un o honynt, ac arferai ddywedyd mai ar ol i'r blaenoriaid fyned i gadw Dyddiaduron y dechreuwyd gwneyd camgymeriadau gyda chyhoeddiadau pregethwyr. Morris Llwyd, o Drawsfynydd, hefyd, oedd ŵr o ddylanwad mawr, ac wedi cysegru y dylanwad hwnw o blaid crefydd. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion yn ei ddosparth am lawer o flynyddoedd, ac os bu neb erioed yn gallu addoli uwch ben tŵr o ffigiwr, yr ydym yn credu i Morris Llwyd allu gwneyd, uwch ben cyfrifon yr Ysgolion Sabbothol lawer gwaith. Wel, rhaid i ni ffarwelio a William Ellis a hwythau. Heddwch i'w llwch. Hyderwn y bydd dygiad allan yr adgofion hyn am yr hynod William Ellis, yn symbyliad i frodyr eraill i ymgymeryd â rhoddi adgyfodiad i hen