Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymeriadau cyffelyb iddo. Nid oes dim yn gadael dylanwad mwy iachusol ar y meddwl na chyfeillachu à chymeriadau gwir grefyddol. Wrth ollwng y llyfryn bychan hwn o'n llaw, nid oes genym ond dymuno i'r darllenydd gael cymaint o fwynhâd ac adeiladaeth wrth ei ddarllen ag a gawsom ni ein hunain wrth ei gyfansoddi, ac os ca efe hyny, ni bydd yn edifar genym am y llafur a dynasom arnom ein hunain.

GRIFFITH WILLIAMS.

Talsarnau, Awst 18fed, 1875.