weithiau, ond ag ymdrech y gwnâi hynny, fel petai'n ceisio ysgwyd y lleill o'u mudandod syn.
A barhâi'r nos ddilewyrch hon am byth? A ddeuai eto heulwen a chân adar yn ôl i'r byd? Crwydrodd meddwl Joseff i hedd y bryniau a gwelai'r ffordd wen yn dringo heibio i'w winllannoedd tua'r berllan â'r ffrwd yn fiwsig ynddi, a thua'r tŷ lle'r eisteddai breuddwydiwr wrth ei ffenestr. A ŵyrai'r caddug hwn tros Arimathea hefyd, tybed? Dychmygai Joseff ei fab yn rhoi'r rhòl a ddarllenai o'r neilltu ac yn syllu'n syn i'r tywyllwch. Ond efallai y gwyddai, efallai fod ei feddwl, drwy ryw gyfrin ffordd, yma wrth droed y groes gydag Ioan a'r gwragedd yn eu noswyl hir.
Awr, dwyawr, teirawr—canasai utgyrn y Deml ac utgyrn pres Tŵr Antonia deirgwaith. Yna, yn uchel o gyfeiriad y groes:
"Eli, Eli, lama sabachthani?" [1]
Caeodd y distawrwydd drachefn fel y cae tywyllwch pan ddiffydd golau. Ond cyn hir rhwygwyd ef gan daranau pell, yn nesau'n araf fel sang rhyw dynged ddiwrthdro. Yna, a phob golwg tua'r nef, crynodd y ddaear a dihangodd cri o ofn o enau'r bobl oll. Ymwylltiodd meirch y canwriaid, gan weryru yn eu braw, a thorrodd parablu cyffrous ymhlith y milwyr. Ond, fel petai nef a daear yn anadlu eilwaith, yn rhydd o afael rhyw bryder enfawr, ciliodd y tywyllwch fel trai, chwaraeai awel yn y llwyni gerllaw, a chanai'r adar yng ngerddi Gareb, yn betrus i ddechrau ac yna â nwyf.
Ar y groes, syrthiasai pen y Nasaread ar ei fynwes, ac wrth ei throed gwelai Joseff filwr ac yna un arall yn taro'u picellau wrth eu talcennau mewn gwrogaeth i'r carcharor.
"Y mae popeth drosodd, Joseff."
"Ydyw, Nicodemus, ydyw.
Teimlai Joseff yn flinedig iawn, fel un a fuasai'n gwylio wrth wely cystudd ac a gadwyd yn effro ac eiddgar gan bob symudiad o eiddo'r claf, heb amser i feddwl am ei flinder ei hun. Yn awr, a'r noswyl ar ben, hoffai fynd ymaith i rywle tawel, tawel, heb ynddo sŵn ond murmur ffrwd a siffrwd dail.
"Pwy yw'r rhain, Joseff?"
"Rhai o filwyr y Rhaglaw. A chredaf y gwn beth yw eu neges."
"Tynnu'r cyrff i lawr rhag iddynt halogi'r Ŵyl?"
"Ie. Arhoswch yma, Nicodemus. Yr wyf yn adnabod y
- ↑ Geiriau agoriadol Salm 22 yn yr Aramaeg, wedi eu cyfieithu fel Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? ym Meibl 1620. Yn ôl Mathew 27:46 dyma eiriau olaf yr Iesu ar y groes