. . . "Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt . . . " Fel y llithrai'r geiriau eofn hyn i'w feddwl, syrthiodd llygaid Othniel eto ar rai o'r llinellau ar y rhòl:
"Nyni oll a grwydrasom fel defaid: |
Gododd ei olwg a syllu'n hir drwy'r tipyn ffenestr draw i gyfeiriad Jerwsalem. Ymhell ar y gorwel yr oedd cwmwl tywyll fel petai'n ymagor, gan ymddangos fel safn ogof. Gerllaw iddo syrthiai pelydrau haul ar eira disglair y mân gymylau eraill, ond nid âi un llewych yn agos i'w ddüwch ef. Ac fel yr edrychai, gwelai Othniel wynebau milain, creulon, yn ymffurfio ac yn crechwenu yn safn y cwmwl, ac adnabu hwy fel y rhai a welsai yn ei freuddwyd. Yn y llafn o heulwen, a'i wenwisg, er yn doredig ac ystaenllyd, yn loywder arian, safai gŵr gofidus a chynefin â dolur. Yr un wyneb ifanc, dwys, a gwrol a oedd iddo ag yn y breuddwyd, a safai eto'n rhwym a gwelw ond yn ddarlun o lendid a rhyddid a dewrder. Nid agorai ei enau i gyhuddo neb nac i edliw dim. Yr oedd fel petai'n edrych tu draw i'r ogof a'i chynllwynwyr i eithafion byd ac i bellterau amser, yn ffyddiog, yn gadarn, yn sicr.
Y Nasaread. Ac ef . . . ef oedd y Meseia: yr oedd yr hen Elihu yn iawn. Ond ni ddeuai i Arimathea. Fe lwyddai'r cynllwynwyr yn eu dichell—dros dro, cyn tyfu o'r aur yn harddwch yn y gwŷdd.
Darllenodd Othniel gerdd Eseia eto, ac yna edrychodd ar ei gân ei hun. Ysgydwodd ei ben yn araf cyn tynnu ei fysedd tros y llinellau ar y dabled wêr a dileu pob gair.