Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Ogof.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ymhen deuddydd," meddai Dan eto, braidd yn gwta. "O'r gorau. Diolch." Ac aeth Laban ymaith.

Bu orig o ddistawrwydd. Gwyddai rhai ohonynt i Dan ddyfeisio cynllun i achub y tri Selot o'u cell o dan y Praetoriwm, a gwelent oddi wrth ei wedd yn awr na weithiai'r cynllun hwnnw.

"Byddai'r Praetoriwm a Chaer Antonia yn nwylo Tera a'i wŷr mewn awr," meddai Ben-Ami, yn ailgydio yn ei ddadl. "Ac y mae'r bobl i gyd yn barod i godi. Yn erbyn y trethi, heb sôn am ddim arall."

Wrth ochr y ddau efaill, Abiram a Dathan, ar y fainc, eisteddai dyn tawel a syn yr olwg, a'i wallt, er nad oedd ond rhyw bump a deugain, cyn wynned ag eira Mynydd Hermon. Syllai'n ddwys ar y llawr, ond cododd ei ben yn awr.

"Trethi Trethi!" meddai'n chwyrn ac uchel.

Tynnodd Dan ei fainc yn nes at y gwŷdd, ei ffordd o atgoffa'r siaradwr nad mewn cyfarfod cyhoeddus yr oedd. "Trethi!" meddai'r dyn yn dawelach ond yn llawn mor ffyrnig. "Y mae'r bobl yn fy ardal i yn llwgu i geisio'u talu. Y dreth flynyddol, treth y dŵr, treth y ddinas, treth y ffordd, treth y tŷ, tollau wrth y pyrth, tollau yn y farchnad—y mae gennym hawl i anadlu, a dyna'r cwbl. Wedi inni dalu ein trethi i'r Deml, beth sy gennym ar ôl?"

"Dim digon i gadw corff ac enaid ynghyd, heb son am roi arian i'r Rhufeinwyr," chwyrnodd un o'r efeilliaid wrth ei ochr.

"I'r Rhufeinwyr?" meddai Beniwda. "Mi hoffwn i wybod faint o'r trethi sy'n mynd i bocedi'r casglwyr. Y mae pob publican y gwn i amdano yn dew fel mochyn."

"Fel mochyn?" gofynnodd Ben-Ami. "Fel rhai o offeiriaid y Deml wyt ti'n feddwl, Beniwda!"

Rhoes Lamech y gorau i gribo'r gwlân ac edrychodd yn llym ar ei ŵyr yr oedd taflu sen ar offeiriaid y Deml yn gabledd yng ngolwg yr hen frawd.

"Yr wyt ti'n anghofio mai i'r Arglwydd dy Dduw y cyflwyni drethi a degymau a rhoddion y Deml," meddai'n ddwys.

Yr oedd ateb gwyllt ar flaen tafod Ben-Ami, ond cododd ei dad a chroesi ato.

"Patrwm hardd, Ben-Ami," sylwodd, gan nodio tua'r gwŷdd. "Y mae'r coch a'r du yn mynd yn dda gyda'i gilydd.