Ydynt, wir, fachgen, yn dlws iawn." A throes Dan yn ôl i'w sedd, gan fwmial salm.
"Cefais i fy magu'n grefyddol iawn," meddai dyn y gwallt gwyn" Mor ddefosiynol â neb. Y synagog a'r Deml oedd popeth yn yr hen gartref. Ond yn wir, fe aeth y baich yn drwm i un a chanddo bump o blant. Offrwm-pechod, offrwm-diolchgarwch, aberthau, hanner-sicl y wraig a minnau i Drysorfa'r Deml, blaenffrwyth y coed ffigys sy gennyf, degwm ar y ddwy fuwch, ac ar y tipyn ŷd.
"A hyd yn oed ar lysiau'r ardd erbyn hyn, Amos," chwanegodd Ben-Ami. "Ar y mintys a'r anis a'r cwmin! O, y mae gan Iafe gystal publicanod â'r Rhufeiniaid unrhyw ddydd!"
Clywodd yr hen Lamech a safodd mewn braw.
"Beth ddywedaist ti, Ben-Ami?"
"Dim ond bod yr Offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn rhai cydwybodol a thrwyadl iawn," atebodd ei ŵyr yn dawel, gan giledrych arno.
"A beth wyt ti'n feddwl wrth hynny?" gofynnodd yr hen ŵr, a'i lais yn dechrau crynu.
Gwelai Dan fod ystorm ar dorri. Rhoes y gorau i'w waith a chododd oddi ar ei fainc, gan afael eilwaith yn y wisg a ddygasai Laban i'w thrwsio. Daliodd hi i fyny yn erbyn y golau â'i law chwith a thynnodd fysedd ei law arall yn araf drwy'i farf. Edrychai pob llygad arno, a darfu pob siarad. Suddodd yr hen Lamech yn wylaidd yn ôl i'w bentwr o glustogau. Yr oedd Dan y Gwehydd, llywydd answyddogol Plaid Ryddid, ar fin llefaru.
"Y mae'r ifanc yn eiddgar—ac yn fyrbwyll weithiau," meddai. "Clywsoch fod gan Tera dros bedwar cant o wŷr, pob un yn werth dau o'r milwyr Rhufeinig. Y gwir yw fod ganddo ryw ddau gant a hanner, llawer ohonynt heb arfau o werth. Clywsoch y buasai Jerwsalem yn eu dwylo cyn i wŷr Antonia ddeffro—cyn iddynt droi yn eu cwsg. Y mae rhyw dri chant o filwyr yn Antonia yr wythnos hon a rhyw ddeugain yn y Praetoriwm. Gwŷr profedig a'u harfau'n rhai i'w hofni."
Rhoes Dan y wisg eto ar y bwrdd cul, gan gymryd arno graffu ar y patrwm ynddi.
"Clywsoch y gallai negesydd gyrraedd Tera mewn rhyw