deirawr. Gallai. Ond cymerai Tera hanner diwrnod i alw'i wŷr ynghyd o'r pentrefi a'r tyddynnod. Nid byddin ar flaenau'i thraed, ar fin cychwyn, sydd ganddo. 'Heno nesaf amdani,' ebe'r ifanc. Pe gyrrem y negesydd yr ennyd hon, a fyddai Tera a'i wŷr yma cyn y wawr yfory?"
Holi'r wisg yn dawel a wnâi Dan, ond arhosodd yn awr fel petai'n disgwyl ateb ganddi. Yna aeth ymlaen,
"Y mae tri o aelodau mwyaf selog y Blaid mewn cell o dan y Praetoriwm. Ni welaf ond un ffordd i'w hachub."
"A honno, Dan?" gofynnodd brawd Dysmas.
"Fe soniodd Ben-Ami am y pererinion,. Gwelsom dyrfaoedd ohonynt ddoe yn llawn cyffro, yn dilyn y Nasaread.'
Cydiodd Dan yn y wisg a mynd â hi gydag ef i ganol y siop, fel pe i chwilio am fan goleuach.
"Y mae ar y Blaid angen arweinydd," meddai, gan edrych o gwmpas arnynt am y tro cyntaf.
Syllodd pawb yn syn arno. Arweinydd? Onid ato ef, Dan y Gwehydd, yr edrychai'r Blaid—y rhai callaf, beth bynnag? Croesodd dyn mewn oed, a safai wrth y drws, ato a chymryd y wisg o'i ddwylo.
"Beth ydych chwi'n geisio'i ddweud, Dan?" gofynnodd. "Oni welsoch chwi'r orymdaith ddoe, Saffan?"
"Do, ond, . . . "
"A chlywsoch am y cynnwrf yng Nghyntedd y Deml y bore 'ma?"
"Do, ond . . . "
"Wel?"
Edrychodd Saffan yn ddryslyd ar y gwehydd.
"Nid ydych . . . nid ydych yn awgrymu y dylem ofyn i'r Nasaread hwn ein harwain, Dan?"
"Y mae'n boblogaidd. Ac yn eofn."
"Hy, Galilead i'n tywys!" meddai Abiram, y mwyaf o'r ddau efaill.
Daeth golwg gas i wyneb, Dan. "Dywedais ganwaith fod yn hen bryd i'r elyniaeth rhwng De a Gogledd ddiflannu,' meddai, gan gydio eto yn y wisg a hylldremio ar y rhwyg yn ei hysgwydd. "Heb unoliaeth, marw a wna'r genedl. Y mae rhai o ddynion gorau'r Blaid yn Galilea."
"Beth oeddech chwi'n feddwl wrth ddweud bod ffordd i achub fy mrawd a'r ddau arall?" gofynnodd brawd Dysmas.