"Ni welaf ond un ffordd. Fel yr awgrymodd Ben-Ami, y mae'n bryd inni daro. Nid heno, ond nos yfory.'
Goleuodd wynebau Beniwda a Ben-Ami. O'r diwedd yr oedd Dan y Gwehydd yn bwriadu gweithredu yn lle cynllunio ac aros am ei gyfle.
"Gyrraf negesydd at Tera i'w rybuddio. Caiff yr hen Shadrach fynd yno i brynu gwlân. Ni fydd neb yn ei amau ef. Ac yna, yfory, danfonwn negesydd arall i ddweud wrth Tera a'i wŷr am gychwyn. Neu i'w hatal rhag cychwyn.'
"I'w hatal, 'Nhad?" gofynnodd Ben-Ami, braidd yn siomedig.
"Ie. Yr ydym yn taro yn awr am fod y pererinion yn fyddin fawr yn y ddinas ac o'i hamgylch. Ac am fod y Nasaread yma dros yr Ŵyl."
"Beth yw eich cynllun, Dan?" gofynnodd Saffan.
Ai Ben-Ami ymlaen â'i waith wrth y gwŷdd a phlygai'r hen Lamech yn ôl ac ymlaen wrth ei beiriant cribo. Ond yr oedd cyffro lond yr awyrgylch.
"Dibynna'r cynllun ar y Nasaread hwn. Ni wn ddigon amdano eto. Ond gwn, drwy un o'i ddisgyblion, y bydd yn athrawiaethu yng Nghyntedd y Deml bore yfory. Awgrymaf fod pedwar ohonom—Saffan ac Amos a . . . a Beniwda a minnau yn mynd yno i wrando arno. Gwyddom ei fod yn ddigon eofn i herio awdurdodau'r Deml. A ydyw'n ddigon gwrol i herio Rhufain? Os ydyw, gofynnwn iddo'n harwain, a gyrrwn negesydd cyflym at Tera. Fe heidia'r pererinion eto o amgylch y Nasaread, ac, fel y dywedodd Ben-Ami, y mae arfau gan lawer ohonynt.'
Dychwelodd Dan at y gwŷdd, gan daflu'r wisg o'r neilltu "Ond yn ôl a glywais i amdano," meddai Amos ymhen ennyd, "nid yw'r Nasaread hwn yn ŵr rhyfelgar."
"Y mae'n gyfeillgar â phublicanod, mi wn i hynny," sylwodd Abiram.
"Ac ag ambell ganwriad Rhufeinig," meddai brawd Dysmas. "Clywais iddo iacháu gwas yr un sydd yng Nghapernaum.
"Yn nhŷ publican y lletyai yn Jericho," ebe Saffan.
"A phublican oedd un o'i ddisgyblion unwaith," meddai Ben-Ami.
Edrychai pob un ohonynt ar Dan wrth daflu'r brawddegau hyn ato.