Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

94
COFIANT
derbyn llawer fel ffrwyth gweddiau ei chyfeillion
drosti. Credai bob amser mai goruchwyliaeth ang-
enrheidiol yn llaw y Gweithiwr mawr oedd yr hir
afiechyd yr oedd hi yn ei gael. Ni chlywid yr un
gair oi genau tebyg i anfoddlonrwydd. Dywedai
wrth y Parch. Roger Edwards, "pe buasai hi yn
myned i drefnu afiechyd iddi ei hun, na fuasai yn
medru ei drefnu yn well." Un nos Sabboth, coffa-
odd yr ysgrifenydd wrthi, "ei bod wedi treulio
llawer Sabboth unig yma, pan y byddem ni yn y
capel." "Do," meddai, "ond ni chefais un yn or
mod, naddo un; 'ti a gai gystudd ddeng niwrnod"."
Gan mor ofnus ydoedd rhag dangos unrhyw duedd
i rwgnach, arferai grybwyll yn fynych pan y bydd-
ai yn dyoddef cystudd a phoen, "ei bod yn meddwl
nad oedd yn bechod ceisio esmwythau y boen, ond
nad oedd yn dymuno grwgnach."
Yr oedd ei meddwl wedi ei ystório yn dda o
ddewisolion Hymnau Cymraeg a Saesoneg, a byddai
yn profi llawer o gysur wrth eu hadrodd a'u canu.
Yr oedd yn agos mor hyddysg yn Nghasgliad y
Deheudir o Hymnau, ag ydoedd yn y Beibl ei hun.
Byddai yn anhawdd coffhau unrhyw hymn o hyn-
odrwydd, nad oedd hi yn ei medru ar ei hyd, ac yn
alluog i droi iddi yn y fan. Dymunol iawn fyddai
gweled merched ieuainge, yn lle gadael i'w medd-
yliau redeg ar wagedd, yn ymgynefino & gweithiau
mor syml ac ardderchog ag ydyw yr hymnau sydd
genym yn yr iaith Gymraeg.
Ceir gweled wrth ddarllen y Bywgraffiad hwn,
yn nghyda hanes diwedd llawer Cristion, fod hyn
yn talu yn dda am y drafferth, ar wely angeu, ac
mewn llawer cyfyngder cyn hyny. Mynych y
clywyd y drangcedig, yn ystod ei chystudd diw-
eddaf, yn rhybuddio merched ienainge a fyddai yn
dyfod i'w gweled "Cofiwch," meddai, "er pob
peth, wneyd crefydd yn brif orchwyl eich bywyd;
gwyliwch syrthio yn fyr o'r nefoedd."