Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

100

COFIANT

ei hafiechyd diweddaf, gwnai sylwadau cyffelyb i'r
rhai uchod, a choffâi amgylchiad a gymerodd'le fel
esboniad ar yr egwyddoro gariad fel y cymhelliad
cryfaf i weithio dros Dduw. “ Boreu heddyw,”
meddai, “yr oedd y bychan yma, ac mi ofynais
iddo wneyd cymwynas fechan i mi; ' Pa beth a gâf
fi am hyny ? meddai yntau; 0, meddwn inau, a
ydych chwi wedi annghofio yr holl bethau y mae
mamma wedi eu gwneyd i chwi? gan ddechreu eu
hadroddyn olynol; ond cyn i mi gael myned dros
haner y llith, efe a waeddai allan, gwnaf, mi wnaf
bob peth i chwi mamma bach, byth, byth '!" Ni a
gawn maiyr unig amcan oedd yn ei weledуп werth

cael adferiad iechyd i'w gyraedd, oedd cael gweithio
gydag achos y Gwaredwr. “Yr hen gorph yma,
meddai, un diwrnod, " y mae wedi myned mor ddi
lun, ’rwy' braidd yn methu ei adnabod ef.” “Beth
a ddywedech chwi," meddai cyfaill wrthi, “ pe

caech chwi gynyg dôd yn ol, a llwyr wella ? yr yd
ych yn dywedyd nad ydyw yn werth dôd yn ol ar
yrhen derms, a chorph afiach; a fyddech chwi yn
foddlon i wella pe caech chwi gorph crobl iach, i
weithio am dymor eto gydag achos Duw ? " " Y

mae yn anhawdd dewisyn yr amgylchiad hwnw ,
ond mi roddwn I ei ddewis iddo ef."
Y mae yn ddigon amlwg nad difrifwch gwely
angeu oedd wedi gweithio ynddi yr awyddfrydhwn
i fod yn ddefnyddiol gydag achos Iesu Grist. Cawn
yn mhlith ei phapurau yr ysgrifen ganlynol wedi ei
ysgrifenu ganddi pan yn 23ain oed - adeg y bydd

wn braidd yn barod i esgusodi meibion a merched
er dangos eu hunain yn o bell dan ddylanwad meb
yd ac ieuenctyd ; ond y mae yn eglur mai bod yn
iles i'w chyd-bechaduriaid oedd y pwngc mwyaf ar
ei meddwl hi yn yr amser hwnw :
Awst 7fed, 1835. Pan yr wyf yn gweled miloedd o fy

nghyd -greaduriaid yn marw o eisieu gwybodaeth, a chlywed