Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

102
COFIANT
gryf wedi ei lunio mor ystwyth. "Yr wyf fi yn
credu, fy anwyl briod," meddai wrth yr ysgrifenydd
tua phythefnos cyn y diwedd, "na bydd i mi wella
y tro hwn; ond nid wyf yn gofalu dim pa un a
wnaf a'i peidio: yr wyf wedi dyweyd wrth yr Arg-
lwydd, ac nid wyf yn dewis galw yn ol, fel y
myno, a phryd y myno'; yr wyf felly yn ei law ef,
fel nad oes genyf fi ddim i'w wneyd ond dysgwyl.'
Ni a'i cawn hi o hyn allan, yr hon oedd yn ddiw-
eddar yn suddo mewn dyfroedd dyfaion, a'r tonau
dros ei phen, wedi dyfod mor hyf nes medru siared
am angeu mor ddiarswyd ag am fyned i'r capel.
Digon anhawdd yn aml y medrai cnawd ei chan-
lyn, gan deimlo ei hun yn cael ei dynu yn rhy agos
at ddorau byd yr ysbrydion. Wrth ei gweled wedi
rhyw ymgynnefino ag edrych yn llawn i wyneb-
pryd dyeithr angeu, heb deimlo yr iasau hyny fydd
yn arfer rhedeg dros y teimladau wrth feddwl, a
son, am ei ddwylaw oerion, er mai hi ei hun oedd i
fyned tanynt, braidd na ddyfalem mai gwaith
graddol, yn cael ei ddechreu a'i ddwyn yn mlaen
i gryn raddau yr ochr yma i'r afon, yw "llyngcu
yr hyn sydd farwol gan fywyd."
Fel eglurhad o'r hyn y cyfeirir ato uchod, coff-
awn amryw amgylchiadau sydd yn dangos mai
peth bychan yn ei golwg oedd marw. Un diwrnod,
wrth ein gweled oll yn wylo o'i chwmpas, dywedai,
"y mae yn beth dyeithr iawn nad wyf fi yn teimlo
dím cyffroad: os caf fyw bymthegnos eto, byddaf
trwy gymhorth Miss E. wedi rhoddi y wardrobes
oll mewn trefn; ni hoffwn fyned oddi wrthych, a
gadael dillad y plant yn annhrefnus." Bryd arall,
dywedai, "Beth a ddywed fy hen gyfaill, y Parch. T. P.?
Tebygwn ei glywed yn dyweyd-'And
Mary is gone! Yn mhellach eto, cyfarwyddai ni
pa fodd i ysgrifenu, os danfonid y newydd o'i
marwolaeth i'r newyddiaduron-"Na ddywedwch
air," meddai, "am fy hir gystudd, na'r modd y