Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
103
dyoddefais ef, nac un math o ganmoliaeth arall; ond
yn unig fod M. A. Edmunds, anwyl wraig i John
Edmunds, Bangor, wedi dod o hyd i ben ei thaith,
a'i bod wedi ei chyflawni ynddo ef." Wedi gor-
phen pob trefniadau yn nghylch y bedd, a'r blodau
arno, chwanegai:-"nid ydyw blodau yn fwy cyf-
addas mewn unman nag ar fedd y Cristion." Bryd
arall dywedai, "ei bod weithiau yn ofni ei bod yn
rhyfygu wrth edrych yn mlaen mor ddiarswyd;
ond nas gallai helpio, na fedrai hi deimlo ya wa-
hanol." "Yr wyf," meddai, "yn teimlo yn fwy
pryderus yn nghylch y plant na dim arall; ond er
hyny, nid oes rhaid i mi, gwnant hwy yn eithaf;
gallaf eu gadael yn hyderus yn llaw yr Arglwydd,
fe ofala ef am danynt." Ar adeg arall, dywedai
wrth y Parch. J. P.,--"Yr wyf wedi treulio fy oe8
mewn caethiwed, dan ofn angeu. Mi weddiais
lawer am sicrwydd fy mod yn blentyn. Mi gefais
hyny, ac yn awr 'rwy'n barod." Yn gyffelyb atebai
y meddyg: "Y mae eich calon, Mrs. E.," meddai,
"yn llawer gwell; pe gallem ni lwyddo i gael y
chwydd i lawr, chwi a wellhaech eto." "Yr wyf fi
yn gwybod, fy anwyl Syr" (atebai hithau) "eich
bod chwi wedi gwneyd eich goreu i mi, a'ch bod
wedi llwyddo lawer gwaith; ond os methwch y tro
hwn, 'does dim gwahaniaeth." "Y mae John a'r
plant o angenrheidrwydd am fy nghadw, ond am
danaf fi, y mae yn hollol ddibwys.'
Un o'i chwiorydd crefyddol a'i cyfarchodd wrth
ymadael fel hyn: "Gobeithio y de'wch chwi yn
well eto, Mrs. Edmunds bach;""Dôf M. Owen
bach," meddai, "mi ddôf fi yn well; dyna wyf fi
yn ei alw did yn well-'Cael pob gwahanglwyf
ymaith, glan fuddugoliaeth mwy; 'rwy'n canu wrth
gofio'r boreu, na welir arnaf glwy'."