Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGDRAETH .

GAN Y PARCH. LEWIS EDWARDS, M.A. , BALA .

Megis mai trugareddau cyffredin Rhagluniaeth yw y rhai
mwyaf anhebgorol, felly, er cymaint o awydd a ddangosir yn
yr oes hon i ymgyrhaedd at rywbeth gwreiddiol, efallai, wedi'r
cwbl, mai y gwirioneddau mwyaf agos atom, y rhai sydd mor
amlwg i bawb fel mai prin yr ystyrid hwy gan lawer yn werth
eu cofnodi, yw y rhaimwyafpwysig ynddynt eu hunain, a'r
rhai sydd yn cael yr effaith ddyfnaf ar y meddwl. Dyma y
gwirioneddau sydd mor angenrheidiol i ddyn fel gwrthddrychau
ei fyfyrdod ag yw yr awyr bur er cynaliaeth ei gorff: ac, fel
yrelfen hono mewn natur, y maent yn cyrhaeddyd at bawb na
fyddont yn claddu eu hunain o'u gwirfodd mewn gorchwylion
daearol. Y mae hyn i'w weled wrth ymddyddan â gwahanol
ddosbarthiadau ' o wrandawyr o barth y pregethau a draddodir
yn eu clywedigaeth ; oblegid er y gall rhaifod yn fwyaf parod
i ganmawl rhyw olygiad newydd, neu ryw ddywediad bardd
onol, er yny os gofynir i'r gwrandawyr cyffredin pa air sydd
wedi aros fwyaf yn eu myfyrdod, ac wedi gadael yr argraff
ddyfnaf ar eu teimlad, ond odid na cheir ei fod yn hen wirionedd

cyffredin. Wrth ddywedyd hyn ni amcenir am ddadleu o
blaid segurdod a diffrwythdra: oblegid nid heb lafur y gellir
cadw hen wirioneddau o hyd yn newydd, mwy nag y gellir
cadw yr awyr o'n hamgylch yn bur i anadlu ynddi heb ofal
gwastadol; ac nid oes dim yn fwy anhawdd na dangos pwys
igrwydd yr hyn sydd amlwg, a thynu sylw at yr hyn sydd o'r
blaen yn berffaith hysbys.
Un o'r gwirioneddau cyffredin hyn yw cyflymdra amser, a

breuolder oes dyn . Nid oes yma ddim newydd; ac y mae yn
anhawdd dweyd dim arno nad yw wedi ei ddweyd o'r blaen
gan drigolion y cynfyd. Yr ydym wedi cynefino ag ef i'r fath
raddau fel yr ydym yn gadael iddo fyned heibio heb edrych