Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
111
mawr, yn "gweled yn eglur ac o bell," yn siared
am y byd anweledig gyda'r fath eglurder a sicr-
wydd, a phe buasai eisoes wedi glanio iddo. Na!
na! tra y canfyddem un ran yn marw yn raddol,
gwelem y llall yn tanbeidio o fywyd.
2. Mai peth annhebyg iawn, os nid anmhosibl, y
gall yr enaid hwnw sydd yn llawn ac yn ymlenwi
o gariad at Dduw a gwrthddrychau y nefoedd,
gael ei hun wedi myned drosodd mewn un man
arall ond yn y lle dedwydd hwnw. Nid tebyg y
gall yr enaid hwnw droi ar darawiad amrant yn
elyn i Dduw, ac i gasâu y cwbl yr oedd y munud
o'r blaen yn eu caru mor fawr.
3. Fod dylanwad crefydd yn gryfach ar galon
dyn, na dylanwad dim arall a fedd y greadigaeth.
Y mae gofidiau, cystuddiau, a thrallodau y natur
ddynol yn cyd-gyfarfod yn eu ffurf waethaf
mwyaf arswydus yn ngofidiau angeu. Ond y mae
crefydd yn galluogi ei pherchen, nid yn unig i
wneyd y goreu o'r gwaethaf, ond i lawenhau a gor-
foleddu yn nghanol y cwbl. Os yw perthynasau
yn anwyl un amser, y maent yn hynod felly wrth
eu gadael. Os bu angeu ar unrhyw adeg yn frenin
braw, y mae yn arbenig felly pan ar syrthio i'w
grafangau; ac os bu y byd tragywyddol erioed yn
fawr, y mae yn arswydus felly pan ar gamu i fewn
i'w ddorau. Ond er hyn oll, y mae perchen crefydd
yn gallu llawenhau å llawenydd annhraethadwy!
Pa ddylanwad arall a all gynyrchu hyn?