Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
MRS . EDMUNDS .
135
LLINELLAU GALARNADOL
AR OL Y DIWEDDAR
MRS . EDMUNDS , BANGOR .
NESAWN yn araf; bedd y dduwiol yw ,
Fe wyr yr angel am y fangre wiw,
Yr angel roddwyd uwch у lleni trwch
I wylio fyth y cysegredig lwch .
Bedd y farddonol hefyd : mae y lloer
Yn syllu’n bruddaidd ar y lanerch oer,
Fel un yn cofio ! Gwawl y seren gain
Orphwysa yn gartrefol ar y maen .
Mor amlwg oedd ei duwiolfrydedd têr,
Fel yn y byd naturiol haul a sêr !
Ar lawer awr amheuai hi ei hun
Ai grym duwioldeb feddai, ai y llun ;
Ond nid ambeuodd ereill awr erioed,
Y fath eglurder ar ei chrefydd roed.
Y byd allanol, profedigaeth fin,
Sy'n peri i'r credadyn ameu ' i hun ;
Ond bellach glaniodd yn y byd di glwy',
Lle mae'r allanol fel y mewnol mwy.