8
COFIANT
chwareu ar ddydd yr Arglwydd yn y maesydd, ac
ar hyd yr heolydd; ac nid hawdd oedd dwyn y crwydriaid hyn dan reolaeth addysg. Ond trwy
ddyfal- barhad, fe sefydlwyd YsgolSabbothol yn yr ardal, yr hon a gynelid am flynyddau ar brydnawn
Sabbothau ; ac i'r pentref hwn y cyrchai hithau yn gyson bob prydnawn Sabboth, er ei fod yn llafur Iled fawr i un o gyfansoddiad gwanaidd, yn enwedig ar dywydd gwlyb. Yr oedd hefyd wrth hyny yn amddifadu ei hun o'r bregeth gartref, ond yroedd ei hunan -les yn ail beth yn eigolwg. Yr oedd ei llaw
wedi ymatlyd yn y gwaithhwn, ac yr ydoedd yn ei wneyd a'i holl egni; a mawr oedd у cariad a
ddangosid gan y dosbarth ati am ei llafur a'i ffydd londeb .
Yn mhlith ereill o wrthddrychau ei gofal yn y lle hwn, yr oedd gwraig weddw mewn gwth ooedran, yn tynu at ddeng mlwydd a thriugain, heb erioed
ddysgu hyd yn nod yr egwyddor; ond nid oeddyr hen ddysgybles wedi syrthio i anobaith, na'r fugeiles ieuanc ynmeddwl am Iwfrhau. A thrwy ddyfalwch y naill , a diwydrwydd di-ildio y llall, daeth yr hen
wraig i fedru darllen, a dysgu penodau cyfain ar ei chof cyn ei marw ,ac ni cheir gwybod helaethrwydd ei llafur yn y cylch hwn hyd adgyfodiad y rhai cyfiawn.
Tua y flwyddyn 1827, daeth amgylchiad lled alarus ac annysgwyliadwy a hi i ystyriaeth fwy
pwysig o werth crefydd, a'r angenrheidrwydd am barod i gyfarfod angau . Bu farw dwy
fod yn
ferch ieuanc, y rhai oeddynt gyfeillesau iddi, yn mlodau eu dyddiau ; a'r rhai hyny yn ganwyll llygaid eu rhieni, y rhai oeddynt mewn sefyllfa uchel yn y
byd. Ond nid oedd eu hoedran tyner, na'u ham gylchiadau, yn gallu troi saeth farwol angeu draw . Buont feriw o'r darfodedigaeth, a pharodd hyny i'w cyfeilles ieuanc deimlo fod angeu yn nes ati hithau nag o'r blaen. Coffâi am danynt mewn