Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

23
MRS. EDMUNDS.
PEN. V.
EI HYMGYFLWYNIAD I GREFYDD.
"I BAW my Saviour on the tree
In agony and blood;
He fixed his languid eyes on me,
As near the cross I stood."-ANON.
Y MAE yn anhawdd rhoddi cyfrif, yn hollol, am yr
oediad sydd weithiau yn bod i gymeryd crefydd i
fyny, a'i harddel yn gyhoeddus, gan y rhai sydd
wedi cael eu dwyn i fyny o'u mebyd yn nhŷ yr
Arglwydd. Nid ydyw y pwne yn dyfod dan eu
sylw, fe allai, gyda chymaint o arbenigrwydd ag
ydyw yn amgylchiad y rhai sydd yn mhell oddi wrth
grefydd. Y mae yr argyhoeddiadau yn y blaenaf
yn fwy dystaw a graddol, ac felly, yn cymeryd mwy
o amser i ddyfod i addfedrwydd. Wrth ystyried
ansawdd grefyddol meddwl fy chwaer, y mae yn
edrych yn beth hynod ei bod wedi aros cyhyd fel
Ephraim; ond y mae yn debyg fod canlyniadau
proffes arwynebol wedi ei dychrynu rhag cymeryd
y cam pwysig yn gynt.
Gorph. 1. Yr oedd yn Sabboth cymundeb ddoe,
teimlais yn fawr with weled ereill yn cofio dy-
oddefaint y Gwaredwr, a rhai wedi newydd ymuno
a'r eglwys, ac heb feddianu y rhagorfreintiau a
gefais i, ac eto yr wyf fi ar ol. Yr wyf yn ofni gofyn
am gael y friant, er cymaint wyf yn ei dymuno;
oblegid fy mod yn byw yn rhy agos at y byd i
gynal cymdeithas & Duw. 0! am gael fy niddyfnu
fwy-fwy o'r byd-dyfod allan o'u canol ac ymddi-
doli. Arglwydd, santeiddia fi mewn gair a
gweithred i fod yn llestr santaidd i ti, i dy wasan-
aethu di, a thi yn unig, tra yr wyf yma ar y ddaear.