Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
27
yw yn ddim ond bratiau budron, na fydd yn un
dyogelwch rhag ei ddigofaint ef. O Arglwydd, dwg
fi at dy draed yn bechadur, i gywilyddio o'm holl
gyflawniadau, y rhai nid ydynt ond pechodau. O!
gwisger fi yn nghyfiawnder dy Fab; y bywyd wyf
yn ei fyw yn y cnawd, bydded i mi ei fyw trwy
ffydd Mab Duw; na âd i mi grwydro o lwybrau dy
orchymynion, ond bydded "fy ewyllys yn nghyfraith
yr Arglwydd, ac yn myfyrio ynddi ddydd a nos."
Gorph. 29. Yr wyf yn gweled gwahaniaeth dir-
fawr rhwng crefydd mewn hanes, a chrefydd mewn
profiad. Hyderaf na âd yr Arglwydd i mi aros yn
dawel gyda'r gyntaf, ond y caf brofiad tufewnol o'r
llall, sef y grefydd a ddengys ar bob amgylchiadau
ei bod oddi uchod. Yr wyf am gael crefydd y
galon i ddarostwng y nwydau afreolus sydd yn
llechu o'm mewn.
Gorph. 30.
'Rwy'n ofni fod fy nghalon fel y tir
dreiniog yn y ddameg, oblegid nas gallaf wel'd
ond ychydig ffrwyth.
Y mae arnaf ofn fod y drain
yn codi i fyny ac yn tagu y gair. Yr wyf weithiau
yn tybied fod Duw yn rhoddi yr had ynof; ond 0!
mor fuan wedy'n y mae'r byd yn llenwi fy nghalon.
0 Arglwydd, cymer fy nghalon, canys tydi yn unig
a fedri ei chadw; dyro i mi galon hawddgar a da,
i dderbyn yr had, ac i ddwyn ffrwyth i fywyd
tragywyddol.
Anst. 8. Mwynhad o gymdeithas â Duw ydyw
y cwbl sydd eisiau arnaf yn y fuchedd hon a'r un
ddyfodol, ac am bob angenrheidiau ereill yr wyf yn
credu y gallaf eu gadael i'w drefniad Ef, i wneyd &
mi fel y gwelo yn oreu o ran pethau y byd hwn.
Ond dyro i mi dy bresenoldeb yma; rho i mi fwyn-
had o'th gymdeithas; bydded 'fy mwyd a'm diod i
wneuthur dy ewyllys; dyro i mi nerth a phender-
fyniad i dyngu lw o ffyddlondeb i ti, ac i'th wasan-
aethu yn gyflawn tra byddwyf yn y byd.
Amst 10. Yr ydwyf wedi penderfynu gofyn am