Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
31
Israel, tyred a galw fi o wlad fy nghaethiwed;
tydi yn unig a fedr fy ngalw. O Waredwr. tirion
a thrugarog! cymer drugaredd arnaf, a meddygin-
iaetha fy ymchweliad, a derbyn fi nid i grwydro
byth mwy.
Rhag. 1. Hwn ydyw y mis diweddaf o'r flwydd-
yn, ac efallai y diweddaf o'm heinioes; ond gallaf
godi Ebenezer, a dywedyd, "Hyd yma y cynorth-
wyodd yr Arglwydd fyfi." Nid wyf yn teimlo yn
ddigon diolchgar am yr holl fendithion wyf yn
fwynhau. O gwna fi yn fwy felly! Bum yn dar-
llen y boreu heddyw am Saul, y fath gymeriad
gobeithiol ydoedd ar y cyntaf; ond O! fath gwymp
a gafodd pan y gadawodd Ysbryd yr Arglwydd ef:
"ac yr oedd drwg ysbryd oddiwrth yr Arglwydd yn
ei flino." Yr wyf yn ofni fy mod yn fynych yn
tristau yr Ysbryd, ac wedi rhoddi achos cyfiawn
iddo fy ngadael. Maddeu i mi, O Arglwydd, a
gwna fi yn fwy ufudd i ti. -
Rhag. 20. Y byd a llygredigaeth fy nghalon
ydyw y cynorthwywyr cadarnaf a fedd Satan, heb-
ddynt nis gall wneuthur ond ychydig neu ddim;
ond gyda'r rhai hyn, oni bydd i fraich yr Hollalluog
gynal y pechadur, bydd yn sicr o gael ei orchfygu.
Na ad i mi ymddiried i'm nerth fy hun, canys nid
ydyw ond gwendid; eithr bydded i mi gymeryd
ataf "holl arfogaeth Duw, fel y gallwyf ddiffoddi
picellau tanllyd y fall."
Rhag. 31. Ya mhen ychydig oriau fe fydd yr
hen flwyddyn, ei gofidiau, a'i horiau a gam-dreul-
iwyd, wedi myned heibio a'u hannghofio genym ni;
ond rhaid rhoi cyfrif manwl o'r rhai hyn eto yn nydd
y farn. Duw a'u dwg o'n blaen eilwaith. A ydyw
y flwyddyn hon yn fy ngadael yr un fath ag oeddwn?
Neu, a ydwyf wedi cael cyfnewidiad natur? Ar-
glwydd, "crea ynof galon lân," fel y byddo i mi
dreulio yr un ddyfodol, os ei gweled hefyd, yn
nes atat ti, ac yn mhellach oddiwrth y byd, na'r