Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
45
chwyl hwn, ond cyfrifai hyn yn ddyledswydd arni, ac
nid esgeulusodd hi byd ddydd ei hymadawiad; ac
er i'w gwendid a'i phoen fod yn fawr am gryn am-
ser cyn iddi ymadael, y mae y llyfr yn cynwys, yn
ei llawysgrifen ei hun, y gwahanol bethau oedd i'w
prynu erbyn yr wythnos oedd yn dechreu y boreu
dydd Llun y cauodd ei llygaid ar y fuchedd hon.
Y Cristion mwyaf cywir, o bosibl, sydd yn ddaros-
tyngedig i fwyaf o amrywiaeth hin gyda chrefydd,
ac yn fwyaf agored i deimlo oddiwrthynt. Ond y
mae cyfansoddiad meddwl rhai, hefyd, yn eu gwneyd
yn dra agored i dderbyn argraffiadau dwfn oddi-
wrth bob peth sydd yn eu cyfarfod, y da yn gystal
a'r drwg. Un felly oedd gwrthddrych y cofiant
hwn. Mynych y dywedai na wyddem ni oedd o'i
chwmpas, ond ychydig am y pleser angerddol a
fyddai hi yn gael oddiwrth bethau bychain. Mawr
y llawenydd a fyddai yn deimlo wrth gyfarfod &
hen gyfaill; mor anwyl ganddi fyddai cael cym-
deithas ambell i bregethwr; mor gynes y byddai
yn coffhau am ryw gymwynas fechan a fyddai wedi
dderbyn, ac mor barod i'w thalu yn ei bol ar y
bedwaredd. Y fath flas a fyddai ganddi i syllu ar
dlysni natur yn y coedydd a'r blodeu, a gwrando
ar gân yr adar, neu weled plant yn mwynhau eu
hunain wrth chwareu. Byddai bob amser yn gweled
ol llaw Duw ar bob peth natur, ac felly, ni fynai
un amser ysgaru natur a chrefydd. Mynych y
dywedai, "y mae'r byd yn dda ac yn hardd
ryfeddol, ond nyni sydd wedi myned yn ddrwg;
'rwy'n anfoddlon i glywed neb yn rhedeg ar y byd."
Dengys y gân ddiodl a ganlyn, yr hon a gafwyd yn
mhlith ei chyfansoddiadau, mai pethau tlws yn ei
golwg oedd pethau bychain natur-

TWILIGHT.

THE crows fly swiftly to their secret home,
And the swift dove unto her loving mate;