Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

56
COFIANT
gyffredin yn cymeryd i fyny fwy na haner en
hamser, a mwy na naw rhan o bob deg o'u chwaeth,
ac ymwroli i ddarllen ac astudio ar ei phen ei hun,
y cyrhaeddodd hi y rhan fwyaf o lawer o'r ychydig
wybodaeth oedd ganddi. Ac er mwyn profi ei
phwnc am alluoedd ei chydryw, cynygiodd y
câi y dosbarth uchaf o'r merched tan ei gofal,
ymgystadlu a'r dosbarth uchaf o'r bechgyn yn yr
ysgol arall, unwaith bob chwech wythnos, yn yr
holl wersi y byddent wedi bod yn efrydu yn ystod
yr amser hwnw; ac y mae yn deg addef, ar ol yr
ymdrechfeydd mwyaf egniol o bob tu am amryw
flynyddoedd i gyraedd y fuddugoliaeth, fod y
merched yn sefyll eu tir yn hynod o lwyddianus,
yn aml yn rhagori mewn llawer o bethau, ac nid
un amser yn mhell islaw y nod. Ond, hwyrach,
mai y gwirionedd yw hyn, er nad yw eu meddyl-
iau yn wanach na'r eiddo y rhyw arall, ond gan eu
bod yn gyffredin yn wanach eu gewynau (nerves),
eu bod yn dueddol i laesu mewn egni a dyfal-
barhad. Credai hi yn ddiysgog mai y diffyg
mwyaf sydd i'w ganfod yn y gymdeithas ddynol,
yw diffyg dylanwad priodol y fam-y fam wedi
ei haddysgu yn briodol-y fam wedi diwyllio ei
meddwl, a'i ystório à gwybodaeth, ac wedi ei
gwreiddio mewn moesoldeb crefyddol. Ysgrifenodd
lawer ar wahanol amserau ar y pwne dyddorol hwn;
y mae ger ein bron gopi o ddau bapyr wedi en
hysgrifenu yn y flwyddyn 1839, a ddanfonwyd
ganddi, tebygir, i ryw gyhoeddiad misol, tan y
ffug-enw "Mara," ar ddylanwad y rhyw fenywaidd,
ond sydd yn rhy faith i derfynau y cofiant hwn.
Nid oedd yn blino dadleu y pwnc hwn, canys ni a'i
cawn yn mis Tachwedd diweddaf yn ymosod gydag
egui i ysgrifenu ar y testyn, "Mam Rinweddol,
yn nghystadleuaeth Ysgolion Sabbothol Bangor.
A chan y tybiwn y gall y traethawd fod o ddefnydd,
rhoddwn ef ger bron y darllenydd.