Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

60
COFIANT
llenwi i fyny, ao efelychu yn eich uchelgais fam meibion
Zebedeus; ewoh at yr Iesu ar ran eich plant, i ofyn " cael o
honynt eistedd gydag ef yn ei freniniaeth." Ni ddirmayga
efe eich cais, ond caniatá eich deisy fiad, gan ddywedyd,
"Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waberddwch
hwynt; canys eiddo y cyfryw ral yw teyrnas nefoedd."
MAM BRYDERUS.
Ysgrifenodd hefyd, yn yr un gystadleuaeth, ar y
testyn "Gwyleidd-dra." Barnwyd y traethawd
hwn hefyd y goreu. Tueddir ni i feddwl y gall
fod sylwadau yn y traethawd hwn eto o wir werth,
ac ynddynt duedd i lesàu y rhai y maent wedi eu
bwriadu iddynt; gan hyny, ychwanegwn hwn eto.
GWYLEID D-DRA.
(Traethawd buddugol.)
Y DARNODIAD goreu a fedrwn roddi ar y testyn yw yr un
canlynol-"Gwyleidd-dra ydyw y dymher ostyngedig hono
sydd yn dylyn, ac yn tarddu oddiar, iawn syniad am ein
galluoedd a'n pwysigrwydd ein hunain. Mewn ieuenctyd, y
mae y rhinwedd hwn yn ymylu ar yswildod ao ofnusrwydd;
mewn personau wedi dyfod i gydnabyddiaeth â'r byd, tardda yn
llawn cymaint oddiar egwyddor ag oddiar deimlad-yn rhoddi
i ereill bob parch ac anrhydedd dyledus iddynt. Yn y rhyw
fenywaidd, y mae gwyleidd-dra yn gyfystyr a diweirdeb
(chastity), neu burdeb ymddygiad. Gwyleidd-dra diragrith yw
yr harddwch mwyaf prydferth yn mhlith holl ragoriaethau y
rhyw fenywaidd, a'r perl gwerthfawrocaf yn nghoron eu han-
rhydedd." At hyn ychwanegwn, mai rhyw barddwch ydyw,
ar y mae Awdwr natur wedi ei roddi ar ferch, er dyogelwch
yn gystal a phrydferthwch iddi. Yr arwyddlun goreu o ferch
wylaidd ydyw y blodeuyn hwnw a elwir moss roze-y mae
natur wedi tynu gorchudd megys, dros ei wyneb. Y mae
pawb yn synu at ei harddwch; ond os eir i wneyd yn rhy eofa
arno, teimlir fod yno ddraen i'w ddyogelu rhag y cyffyrddiad
trwegl. Nid oes un rinwedd a ganmolir yn fwy gan brydydd.
ion, hen a diweddar, na gwyleidd-dra; ao y mae aml un o
honynt wedi llwyddo i'w ddesgrifio yn dra chywir, yn enwedig
Milton, yn ei Goll Gwynfa, dan y oymeriad o Efa; ac os bydd
neb o'm cyfeillesau yn teimlo awydd i'w hefelychu, dylent
gofio mai gwir wylaidd-dra, ac nid ei rith, a ddesgrifir yno-
(canys nid oes dim hardd mewn natur na theimlir awydd i'w