Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

73
COFIANT
ent chwaith pe codai un oddiwrth y meirw."
Gwelwyd hi yn wylo yn chwerw wrth ganfod ereill
yn teimlo, am na fedrai deimle ei hun. Yr oedd ei
meddwl o'r fath gyfansoddiad, fel ag i wrthod pob
cysur, ie, pob gradd o hono, oddieithr ei fod wedi
ei seilio ar dir cadarn a goleu. Priodol yw dyweyd
hefyd, nad effaith unrhyw bruddglwyf (melancholy)
yn ei chyfansoddiad oedd yr amheuaeth hwn-nid
oedd yn brudd yn ei chysylltiad à neb na dim ond
yn unig ei chyflwr ysprydol, yr oedd yn siriol a
llawen yn mhob cysylltiad arall. Syrthiodd i afael
y teimlad hwn bedair blynedd yn ol, pan mewn
afiechyd trwm-rhy drwm i hysbysu ansawdd dy-
mhestlog ei meddwl wrth neb ar y pryd. Mynych
y dywedai ar ol hyny wrth gofio yr adeg, gan
gyfeirio at gyhuddwr y brodyr-"O the great
coward! I shall never forgive him, to strike so hard
in such an extreme "weakness." Gwellhaodd ei
hiechyd i raddau mawr ar ol hyn, ond parhaodd
yr argraff anhyfryd ar ei meddwl am yn agos i
dair blynedd Yn ein golwg ni, byddai goruch-
wyliaeth mor lem o eiddo yr Arglwydd tuag at
wrthddrychau ei gariad yn anhawdd i'w hesbonio,
oni bai fod gorphwysfa eto yn ol i bobl Dduw.
Gorphenir y bennod hon trwy gyflwyno i sylw y
darllenydd, y llinellau canlynol o'i heiddo, yn yr
iaith arall, ar orphwysfa y Cristion :-
THE CHRISTIAN'S HOPE.
"There remaineth therefore a rest for the people of God."
Ah! tiresome is the weary way,
We have to travel through;
The patha alast are long and rough
To hearts brimful of woe:
This thought sustains me ever more
The weary journey 'll soon be o'er.