Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ni orphwysai nes cael y peth i ben. ac felly y bu hyn. Hefyd penododd ar ddau o eglwys y Bala, sef Morris Rowlands a minnau, a danfonodd ni ein dau i Gaergybi, yn Môn, yn mis Tachwedd, 1807, ac aeth yn rhwymedig am ein hysgol a'n cynhaliaeth hefyd, ei hun; ni wn pa faint o gynorthwy a gafodd, ond yr wyf yn meddwl mai go ychydig." Yr oedd y Morris Rowlands uchod yn ŵr nodedig o dduwiol. Ond collodd ei iechyd, a bu farw ymhen ychydig o fisoedd. Arhosodd Richard Jones yn Nghaergybi am dri chwarter blwyddyn, pryd yr ysgrifenodd ei feistr at Mr. Charles i'w hysbysu ei fod wedi dysgu digon. Ymhen y mis ar ol cyrhaedd adref, dechreuodd gadw ysgol yn nghapel y Methodistiaid yn y Bala.

Yr oedd ef wedi ei gymhwyso, fel y gwelir, i gadw Ysgol Ganolraddol neu Uwchraddol, h.y., yr oedd yn alluog i gyfranu. addysg yn yr iaith Saesneg i'r ysgolheigion. Cynyddai yr alwad at ddiwedd oes Mr. Charles am ysgolfeistriaid galluocach na'r rhai cyntaf, yr hyn a brawf fod agwedd y wlad wedi newid llawer o ran gwybodaeth mewn ychydig dros ugain mlynedd o amser. Un o'r cyfryw ysgolfeistriaid ydoedd. Richard Jones. Ar ol i'w dymor yn nhref y Bala ddyfod i fyny, aeth i gadw ysgol i Drefrhiwaedog, a bu gyda yr un gorchwyl drachefn am yn agos i bedair blynedd yn y Parc, gerllaw y Bala. Yma dewiswyd ef yn un o flaenoriad yr eglwys. Yn Mehefin, 1814, y flwyddyn y bu farw Mr. Charles, y mae yn symud i gadw ysgoli Drawsfynydd. Ac am ddau o'r gloch y Sul, Mawrth 19, 1815, y mae yn sefyll ar risiau pulpud Capel Cwmprysor, yn darllen yr unfed Salm ar ddeg, ac yn gwneuthur sylwadau oddiwrth un adnod, ac yn gwneuthur yn gyffelyb hwyr yr un dydd yn Nhrawsfynydd. A dyma y diwrnod a gyfrifai fel y dydd y dechreuodd bregethu. Y mae bellach yn bregethwr ac ysgolfeistr, a chyflawna y naill swydd a'r llall yn drwyadl a chymeradwy. Yr oedd y lle y pryd