Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn o wrandawyr efengyl yn yr oes hono yn syrthio iddo. Ymresymai ag ef ei hun, mewn ysbryd deddfol a hunanwybodus, fel y gwnai y rhan fwyaf yn yr un stat meddwl ag ef. Os wyf wedi fy ethol, byddaf sicr o gyraedd y nefoedd, sut bynag y byddaf byw. Os nad wyf wedi fy ethol, yn uffern. y byddaf, beth bynag a wnaf. Yn y modd hwn y rhesymai y rhesymolwyr y dyddiau gynt, heb chwilio am ddim gwybodaeth pellach, ac heb geisio credu yr holl wirionedd am y drefn i gadw. Ond wedi bod yn y sefyllfa hon o ran ei feddwl, daeth allan o'r trobwll yn y modd a ganlyn—ac mae ei ymresymiad rhesymol yn deilwng o ystyriaeth pob amheuwr:—"Yr wyf yn hollol sicr mai marw a wnaf rywbryd, bwytawyf faint a fynwyf, ac arferaf foddion bywyd faint a fynwyf; ac er y gwn mai marw a raid, arfer moddion bywyd yr ydwyf o hyd. Y mae Duw wedi trefnu moddion bywyd tragwyddol, a moddion i'w harfer ydynt, ac nid oes neb a ŵyr na chaf fywyd am byth wrth eu harfer. Am hyny mi a arferaf â moddion gras tra fyddwyf byw; mi wnaf y tro i fyn'd i uffern. yn y diwedd, pe b'ai raid." Felly y penderfynodd wneyd, ac felly y gwnaeth tra fu byw. Bob yn dipyn, tra yn cadw at ei benderfyniad, cafodd y lan, a bwriodd ei goelbren ymysg pobl yr Arglwydd.

Ymddengys ei fod yn grefyddol bob amser cyn dyfod, fel y dywedai yr hen bobl, at grefydd. Cafodd le i weithio, a gwaith a wnai y tro iddo, yn union, pan y daeth yn un o filwyr Seion. Gwell yw adrodd y modd y daeth i gysylltiad ag ysgolion Mr. Charles yn ei eiriau ef ei hun :—"Yn fuan wedi i mi ymuno â'r eglwys, cafodd Mr. Charles ar ei feddwl yn fawr, gan nad oedd ysgolfeistriaid crefyddol i'w cael i gadw ysgolion Saesneg, a oedd dim modd rhoi ychydig o ddysg i ddynion ieuainc crefyddol, i'r diben o'u cymhwyso i gadw ysgol yma a thraw ar hyd y gwledydd. Ac fel yr oedd ei feddwl gwrol ef am bob peth a dybiai a wnai leshad i ddynion,