Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Charles, o flaen i'r gwr enwog hwnw gael tori ei fawd, canys torwyd hi dranoeth. Cefais inau y fraint o fod yno gyda hwynt, ac yr wyf yn cofio fod yno hen wr yn gweddio am arbediad Mr. Charles yn daer iawn, ac yn gwaeddi, Pymtheg, Arglwydd, oni roi di ef i ni bymtheg mlynedd, Arglwydd? Er mwyn fy mrodyr y mae yr arch hon, a'm cymydogion hefyd.' "

Er nad oedd ond llanc un-ar-bymtheg oed, daliodd sylw mawr ar yr hen wr yn gweddio, oblegid ei fod yn gwaeddi yn arw, a bod ei ddull yn wahanol i'r lleill. Fe gofir fod yr hanes hwn am weddi ryfedd Richard Owen dduwiol wedi ei roddi yn yr ysgrif ddiweddaf, fel y cafwyd ef o ffynhonell arall. Os ydyw dyddiad mynediad Richard Jones i'r Bala yn gywir, bu Mr. Charles yn dioddef yn hir iawn oddiwrth yr anhwyldeb ar ei law cyn myned trwy yr oruchwyliaeth derfynol, oblegid dywedir yn ei gofiant ei fod wedi cael oerfel yn gynar yn ngauaf 1799, ac yn awr pan y cynhelid y cyfarfod gweddi hynod y nos Sul cyn i'r oruchwyliaeth derfynol gymeryd lle, y mae yn fis Tachwedd, 1800.

Y mae bellach yn fyd newydd ar Richard Jones, wedi symud o Faentwrog i drigianu yn y Bala. Dilyna ei alwedigaeth gydag Edward Evans, un o flaenoriaid rhagorol eglwys y Bala. Mwynha gyflawnder o freintiau Sabbothol ac wythnosol, a rhydd ei feistr bob cefnogaeth iddo i ddilyn moddion gras a byw yn grefyddol. Nid oedd yn proffesu pan aeth i'r Bala, ac ni ddaeth yn broffeswr am bump neu chwe' blynedd. Er hyny, ymbalfalai am y gwirionedd, dilynai yr Ysgol Sul, a gwrandawai y pregethau yn gyson, a thrwy hyny daeth i weled ei fod yn bechadur colledig ac andwyol. Wrth wrando Mr. Charles yn pregethu ar y geiriau, "Yn ol yr arfaeth dragwyddol," y meddyliodd gyntaf erioed am etholedigaeth. Credodd yn y fan wrth wrando yn yr etholedigaeth. Megis er ei waethaf y gwnaeth hyn, oblegid nid oedd ar un cyfrif yn ei hoffi. Syrthiodd o ran ei feddwl i drobwll yr oedd llawer