yn llawer amlach nag yn yr oes fawr ei breintiau yr ydym ni yn byw ynddi. Y mae amseroedd cyfyng, yn sicr, yn fwy manteisiol fel meithrinfa i grefydd nag amseroedd o lwyddiant, ac y mae yn sicr i amryw ddiwygiadau grymus dori allan mewn gwahanol ranau o'r wlad ar derfyn y ddwy ganrif. Ac fe gawn o enau Richard Jones ei hun ddarluniad o ddiwygiad a dorodd allan yn yr ardaloedd hyn:—"Yn y blynyddoedd. hyn [1796—1800] torodd diwygiad grymus iawn allan gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ffestiniog, Maentwrog, a Thrawsfynydd, a byddai gorfoledd mawr gan y bobl; byddai odfa y boreu yn gyffredin yn Ffestiniog, a dau o'r gloch mewn ty a elwir Garth Gwyn, a byddai y bobl yn neidio a llemain, ac yn canu a bloeddio ar hyd y ffordd o'r naill le i'r llall, a minau yn cael pleser mawr yn eu canlyn a gwrando arnynt, ac hefyd. yn gwrando ar y pregethwr, os bloeddiai ei oreu, ac onide ni byddai o fawr o werth yn fy ngolwg." Yn yr hanes hwn yr ydym yn cael darluniad gan lygad—dyst o'r gorfoledd a barhaodd yn Nghymru, fwy neu lai, am dymor o gan' mlynedd, ac hefyd o ddull y bobl o "neidio, a llemain, a chanu a bloeddio," wrth symud yn dyrfaoedd gyda'u gilydd o'r naill fan i'r llall. Nid oedd yr un capel yn Maentwrog y pryd hwn. Yn ddiweddarach yr adeiladwyd yr unig gapel a fu yma gan y Methodistiaid yn ystod oes yr "Hynod William Ellis" Yn awr er's dros ugain mlynedd mae yma ddau gapel, Maentwrog Uchaf a Maentwrog Isaf, ac y mae y Garth Gwyn, lle y cynhelid y moddion crefyddol ddiwedd y ganrif ddiweddaf, yn y canol, oddeutu haner y ffordd rhwng y ddau. Adeiladwyd hefyd gapel yn Llenyrch yn 1861, ardal fechan a olygir fel rhan o gymydogaeth Maentwrog.
Yn mis Tachwedd, 1800, y mae Richard Jones yn gadael ei ardal enedigol, ac yn symud i drigianu i dref y Bala. "Ar y nos Sul cyntaf ar ol i mi ddyfod i'r Bala," meddai, "yr oeddynt yn cadw cyfarfod gweddi yn llofft fawr ty Mr.