Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn wr rhagorol yn Sir Feirionydd. Ceir cipolwg yma hefyd ar yr anhawsderau a gyfarfyddid i gael lle i gario yr ysgolion ymlaen yn y mwyafrif o'r ardaloedd. Mewn tŷ gwael y cedwid yr ysgol hon, ac mewn lle anghysbell. Y gwr duwiol a gadwai yr ysgol hon yn Maentwrog y tymor hwn ydoedd Hugh Evans, o'r Sarnau, yr hwn a ddaeth wedi hyn yn bregethwr gwlithog iawn. Dywed Methodistiaeth Cymru, gan gyfeirio at yr hanes dan sylw, "Fe welir yn yr amgylchiad hwn, fel llawer eraill, brawf o fuddioldeb yr ysgolion rhad. osodasai Mr. Charles i fyny yn y wlad. Pan oedd Richard Jones yn chwe' blwydd oed, anfonwyd ysgolfeistr duwiol i gadw ysgol rad Gymraeg i blwyf Maentwrog, sef y plwyf nesaf at yr hwn yr oedd Richard ynddo, i'r hon yr anfonwyd ef, ynghyd ag eraill o'i frodyr. Yn yr ysgol hon, er ieuenged ydoedd, fe ddysgodd ddarllen Cymraeg yn rhwydd a chywir mewn ychydig fisoedd."

Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn anfonwyd ef drosychydig amser i ysgol a gynhelid yn Eglwys plwyf Maentwrog, gan un o'r enw Ellis Williams. Nid yw yn canmol iddo ddysgu llawer yn hon. Calanmai, 1796, pan oedd yn 12 oed, rhoddwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd of wneuthurwr dillad, a pharhaodd ei brentisiaeth bedair blynedd. Yn ystod pedair blynedd olaf y ganrif ddiweddaf, yr oedd yn amser drwg a chyfyng ar y wlad yn gyffredinol. Yr ymborth yn brin, yn afiach, a drud, a gwaith ymhlith pob dosbarth o'r bron wedi darfod. Gymaint oedd iselder masnach a chyni y trigolion fel y gorfu iddo adael ty ei feistr y diwrnod y daeth yn rhydd o'i brentisiaeth, gan nad oedd dim gwaith i weithiwr o'i grefft ef, ac heb ddim i'w wneyd y bu gan mwyaf yr haf dilynol.

Heblaw ei bod yn gyfyng ar amgylchiadau tymhorol trigolion y wlad, hynodrwydd arall yr amseroedd hyn ydoedd y diwygiadau crefyddol grymus a fyddai yn aml yn tori allan—