Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

werthfawr ar gyfrif y goleuni a rydd ar amgylchiadau boreu ei oes, a hanes yr ardaloedd y bu yn byw ynddynt, ynghyd ag ychydig o wybodaeth pellach am Ysgolion Cylchynol Mr. Charles.

Ganwyd Richard Jones, Hydref 17, 1784, mewn ty a elwid Tafarn-y-trip, yn ngwaelod Plwyf Ffestiniog, Sir Feirionydd. Saif Tafarn-y-trip ar ochr y ffordd, oddeutu haner y pellder rhwng Maentwrog a gorsaf Tanybwlch, ar Reilffordd Porthmadog a Ffestiniog. Mae y ty gerllaw Plas Tanybwlch, byddai ef pan yn fachgen yn gwneuthur mân swyddau o gwm- pas palasdy Mr. Oakley, Tanybwlch, er enill ychydig at ei gynhaliaeth. Yr oedd yr ieuengaf ond un o ddeuddeg o blant. Dywed ei hun nad oedd lle i ddisgwyl iddo gael fawr o fanteision mewn dysg, "a mi yn un o gynifer o blant tlodion mewn cymydogaeth dywyll iawn." Mae geiriau olaf y frawddeg yn arwyddo mai pell iawn yn ol oedd y rhan yma o'r wlad y pryd hwn, mewn moddion dysg a chrefydd. Eithriad oedd fod haner dwsin mewn plwyf yn alluog i ddarllen, a pheth mwy eithriadol oedd cael dau neu dri a fedrent ysgrifenu. "Yn haf y flwyddyn 1790," ebai ef ei hun, "anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr duwiol i'r gymydogaeth i gadw ysgol rad Gymraeg, yr hon a gedwid mewn ty lled wael a elwid Ty'ny- fedwen, plwyf Maentwrog, ac anfonodd fy rhieni rhyw nifer o'u plant, ac yn un o'r nifer yr oeddwn inau, y pryd hyny rhwng pump a chwech oed." Dysgodd ddarllen yn rhwydd yn yr oedran bore hwnw. Byddai dyn a fedrai ddarllen yn hwylus yn cael sylw mawr mewn ardal, ond yr oedd fod bachgen chwech oed yn medru darllen yn rhigl yn beth mor hynod, fel yr aeth son am dano trwy'r holl wlad, a cheisid ganddo ddarllen yn nghlywedigaeth bron bawb a'i gwelai. Dechreuodd yr Ysgolion Cylchynol ddwyn ffrwyth yn foreu. Bu yr ysgol hon yn mhlwyf Maentwrog—terfyna Tafarn-y-trip ar y plwyf hwn yn foddion i roddi cychwyniad i un a ddaeth wedi hyny