PENOD VIII.
Y PARCH. RICHARD JONES, Y BALA.
Hunan-gofiant Richard Jones—Helyntion Maentwrog yn nyddiau ei febyd —Yn symud i'r Bala yn 1800—Yn dyfod at grefydd—Yn dyfod yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles——Yn dechreu pregethu yn Nhrawsfynydd— Yn ymsefydlu yn y Bala yn 1829—John Roberts, Llangwm, mewn Cyfarfod Misol yn Nolyddelen—Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd—John Griffith, Capel Curig, ac Owen William, Towyn.
YR oedd graddau ymysg yr Ysgolfeistriaid Cylchynol mewn gallu a defnyddioldeb, fel ymysg ysgolfeistriaid pob oes Prin y gellid eu cymharu o ran dysgeidiaeth, oblegid ysgolfeistriaid heb gael y nesaf peth i ddim addysg oeddynt. Elfenol oedd yr ysgolion yn ngwir ystyr y gair; rhai felly oedd gymwys i amgylchiadau y wlad y pryd hwnw, ac athrawon byr eu dysg oedd y rhai cymhwysaf i arwain y cyfryw ysgolion. Ond perthynai Richard Jones i radd uwch na'r cyffredin o'r athrawon. Cafodd ef dri chwarter blwyddyn o ysgol yn bwrpasol i'w gymhwyso i gadw ysgolion Seisnig. Galwyd ef hefyd i'r gwaith yn ddiweddarach ar oes Mr. Charles na'r rhan liosocaf o'r lleill.
Mab iddo ef oedd y blaenor parchus, y diweddar Mr. Richard Jones, o'r Bala. Merch iddo oedd priod y cenhadwr ffraeth a selog, ac adnabyddus, y Parch. James Williams, Llydaw. Mab arall iddo ydyw Mr. Edward Jones, Y.H., yn awr o Blasyracre, Bala. Yntau hefyd erbyn hyn wedi gadael y fuchedd hon.
Yn y flwyddyn 1836, bedair blynedd cyn ei farwolaeth, ysgrifenodd fywgraffiad byr am dano ei hun, a chyhoeddwyd hwn ynghyd a sylwadau cynwysfawr am y gwrthddrych gan y Parch. Lewis Jones, Bala, yn 1841. Mae y bywgraffiad yn