Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IX.

HUMPHREY EDWARDS, LLANDYNAN.

Humphrey Edwards yn parhau ar hyd ei oes yn Ysgolfeistr—Yn cael ei argyhoeddi wrth wrando Dafydd Morris, Twr Gwyn—Yn cael ei adnabod gan Mr. Charles—Yn dyfod i Landynan i gadw ysgol— Gorfoledd yn mhlith y plant amryw droion—Yn foddion i roddi i lawr chwareuon ofer—Yn atal ymladd gornest ar fynydd Hiraethog ac ar y Berwyn—Yn flaenor yn mhob man—Yn arweinydd i John Evans, New Inn, i Bont yr Eryd—Ya Nghyfarfod Jiwbili yr Ysgol Sul yn 1848— Yn marw yn 1854.

Arglwydd ddosbarth o ddynion a wnaethant lawer of waith, er arloesi y wlad mewn ystyr foesol a chrefyddol, sef y dosbarth a elwir yn lleygwyr—dynion na dderbyniasant urddau Eglwysig gan Esgob, ac na chawsant eu hordeinio yn weinidogion gan unrhyw enwad crefyddol. Un felly yn arbenig oedd Howell Harris, tad Cyfundeb y Methodistiaid. Rhai felly oedd y llïaws cynghorwyr a gyfodasant yn ei amser ef, a thros ddeugain mlynedd ar ol ei amser ef. Dynion wedi cael argyhoeddiad trwyadl o'u cyflwr colledig eu hunain, a thân dwyfol byth wed'yn yn llosgi yn eu hesgyrn, ac. yn eu gyru allan i'r byd i ddeffro eu cyd-ddynion oeddynt yn yr un cyflwr a hwythau. Rhai a gyflawnent yn llythyrenol eiriau yr Apostol Iago, "a throi o rywun ef," a thrwy ei droi yn cadw enaid rhag angeu, a chuddio llïaws o bechodau." Daeth llawer o ysgolfeistriaid Mr. Charles, megis y crybwyllwyd yn flaenorol, yn bregethwyr defnyddiol, a rhai o honynt yn enwog, ac felly mae eu henwau hwy hyd heddyw yn dra hysbys yn y wlad. Arhosodd eraill yn ysgolfeistriaid hyd eu bedd, neu o leiaf, hyd oni phallodd eu nerth gan henaint. Ni ddaethant hwy