Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor adnabyddus, ac ni chyrhaeddodd eu henwau yr un cyhoeddusrwydd â'r rhai a ddaethant i'r weinidogaeth. Treuliasant eu hoes gyda gwaith da, a gwaith o ganlyniadau parhaol, ond mewn ffordd mwy anghyhoedd. Aethant trwy y byd yn ddistaw, gan oleuo a gwasgaru peraroglau yn y ffordd yr elent.

"Y mae'r gemau a'r perlau puraf gore'u lliwiau îs y llo'r,
Dan y tonau'n gudd rhwng creigiau yn nyfnderoedd mawr y môr;
Ac mae'r blodau teca'u lliwiau, lle nas gwelir byth mo'u gwawr,
Ac yn taenu'u peraroglau, lle nas sylwa neb mo'u sawr!'

Un o'r cyfryw ydoedd.

HUMPHREY EDWARDS, LLANDYNAN.

Gadawodd ei waith yn Pandy Glyn Diphwys, Cerrigydruidion, pan yn agos i bymtheg ar hugain oed, ac ar archiad Mr. Charles aeth i gadw ysgol ddyddiol râd i Gwyddelwern, yn agos i Gorwen. Parhaodd i gadw ysgol o fan i fan, yn Siroedd Dinbych, Fflint, a Meirionydd am ddeugain mlynedd, ac ni roddodd y gorchwyl i fyny hyd nes y daliwyd ef gan henaint a musgrellni. Gweithredai fel blaenor yn yr eglwysi bychain ymhob ardal lle y bu yn trigianu. Bu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i ddarostwng llawer o annuwioldeb, ac i arwain pechaduriaid nid ychydig at y Gwaredwr.

Ganwyd ef ar y 22ain o Dachwedd, 1765, yn Melin y Wig, ar derfyn Sir Feirionydd a Sir Ddinbych, tu draw i Gorwen, Enw ei dad oedd Thomas Edwards, tanner wrth ei gelfyddyd. Dygwyd yntau i fyny yn yr un gelfyddyd a'i dad. Yr oedd yn ugain oed cyn i Mr. Charles ddyfod i fyw i'r Bala, a chyn bod Ysgol Sul wedi ei sefydlu yn Nghymru. Treuliodd yntau ddarn cyntaf ei oes yn wyllt ac yn gwbl ddioruchwyliaeth. Symudasai o'i ardal enedigol i wasanaeth Barcer yn Roe Wen, gan ddilyn ei gelfyddyd fel tanner. Tra yno, ac efe oddeutu deg ar hugain oed, dygwyddodd iddo fyned i Gonwy, i wrando ar y Parch. Dafydd Morris, o Sir Aberteifi, yn pregethu.