Clwyfwyd ef yn yr odfa hono. Bu dan argyhoeddiad llym am gryn amser—gwelai ei hun yn euog—arswydai yn yr olwg ar enbydrwydd ei gyflwr—ofnai bob nos wrth fyned i'w wely, rhag y byddai yn agor ei lygaid yn uffern—dysgwyliai aml i waith i'r gwely ymollwng dano, ac mor ofnadwy oedd yr olwg ar bob peth o'i amgylch fel yr ofnai ac y crynai. Hynodrwydd mawr y cyfnod hwn ar grefydd yn Nghymru ydoedd, y byddai y sawl a argyhoeddid yn cael eu hargyhoeddi yn llym. Mor debyg i argyhoeddiad Saul o Tarsus fu argyhoeddiad llawer o'r hen bobl! Ac mor aml y clywid am ddynion a ddaethant yn ddefnyddiol gyda chrefydd a argyhoeddwyd trwy weinidogaeth rymus y gwas da a'r llefarwr nerthol, Dafydd Morris, o Sir Aberteifi! Wedi bod yn hir wrth Sina, yn clywed y taranau ac yn gweled y mellt a'r mwg, llewyrchodd y goleuni ar feddwl Humphrey Edwards megys yn uniongyrchol o'r nefoedd. Tra yn rhodio wrtho ei hun ar y ffordd, daeth y geiriau hyny yn syth i'w feddwl, "Lle yr amlhaodd pechod, y rhagor amlhaodd gras." O hyny allan yr oedd yn ddyn. newydd. Ymunodd â'r eglwys yn y Roe Wen. Ond wrth gyflwyno ei hun i'r brodyr crefyddol, dysgwyliai bob munyd gael ei droi allan o'r eglwys, gan mor ddrwg yr ymddangosai ei gyflwr ei hun iddo ei hun, ac mor hynod o dda a duwiol y syniai am bawb o'r crefyddwyr eraill. Arweiniwyd ef wedi hyn trwy ddyffryn tywyll, du, amheuon ac anghrediniaeth. Ofnai mai twyll a rhagrith oedd ei holl grefydd, nad oedd yn ofni Duw mewn gwirionedd, nad oedd ganddo ond rhith o grefydd, mai diffoddi a wnai ei ganwyll, ac mai i'r carchar du y bwrid ef yn y diwedd. Ond daeth y goleuni yr ail waith, a chyda'r goleuni y tro hwn ffydd a gweithgarwch a barhaodd hyd ddiwedd ei oes.
Symudodd oddeutu y pryd hwn o Roe Wen i Glyn Diphwys, Cerrigydruidion. Yr oedd capelau a moddion gras y pryd hyny yn brinion. Byddai raid i Humphrey Edwards fyned yn fynych