Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor bell a'r Bala i wrando pregethau, ac elai yno bob Sul pen mis i gymuno. Wrth fyned a dyfod i'r Bala daeth Mr. Charles i ddeall am ei duedd grefyddol gref. Ac wedi iddo. orphen ei amser yn Pandy Glyn Diphwys, cyflogwyd ef gan Mr. Charles i fyned i gadw ysgol yn Gwyddelwern. Yr oedd hyn tua diwedd y ganrif ddiweddaf, yn y flwyddyn 1799 yn dra thebygol. Dechreuodd ar ei waith fel ysgolfeistr, yn ol dim hanes a geir, heb ddim parotoad. Y chwarter cyntaf, cadwai yr ysgol mewn hen adeilad annymunol; nid oedd ond hanner to uwch ei ben, a dim ond tyllau ffenestri heb ddim gwydr yn y muriau. Ac er fod yr ysgolfeistr newydd yn llawn awydd i wneuthur daioni dros ei Arglwydd, eto tueddai y dechreuad anfanteisiol hwn i'w ddigaloni, a phan ddaeth Mr. Charles yno ymhen y chwarter, soniai am roddi ei swydd i fyny. "Rhoi dy swydd i fyny, y machgen i," ebe Mr. Charles, "paid a meddwl am hyny; gweithwyr ac nid segurwyr sydd arnaf fi eisieu." Nid oedd digaloni, a methu, yn eiriau yn ngeirlyfr Mr. Charles, a chyffrodd ei eiriau yr ysgolfeistr i fwy o zel a brwdfrydedd, ac ni chlybuwyd am dano yn son am roddi ei swydd i fyny ar ol hyn. Y symudiad cyntaf a wnaeth gyda'r ysgol ydoedd o Gwyddelwern i Landynan. Digwyddodd iddo fod yn arwain Mr. Charles ar ei daith i Langollen, a thra yn cydio yn mhen ei geffyl, wrth ddisgyn i lawr Bwlch Rhisgog, ebe y cydymaith wrth y marchogwr, Yr wyf yn ofni fod yr holl bobl sydd yn trigo y ffordd acw" —gan gyfeirio â'i fys at ardal Llandynan—"yr wyf yn ofni fod yr holl bobl sydd yn trigo y ffordd acw yn hynod o dywyll a phaganaidd." Gwyddai am y fangre yn dda, oblegid nid oedd nebpell oddiwrth ei ardal enedigol. "Wel, Humphrey," ebe Mr. Charles, "ti gai fyned acw i gadw ysgol, a'u dysgu hwynt yn y ffordd dda ac uniawn." Felly fu; dyma ei gysylltiad cyntaf & Llandynan, lle bu ganddo ysgol lwyddiannus y tro hwn am hanner blwyddyn. Ac