mewn cysylltiad â'r lle hwn y daeth yn adnabyddus drwy y wlad.
Ei symudiad nesaf ydoedd i Langollen. Cafodd yno dderbyniad croesawgar a chalonog. Ni pheidiodd a chanmol hyd ddiwedd ei oes y caredigrwydd a dderbyniodd oddiar law yr hen frodyr, Mri. Robert Cooper, John Williams, o'r Bryniau, a Mr. Edwards, Siamber Wen. Byddai yma yn cadw ysgol nos, er mantais i'r rhai na allent ddilyn yr ysgol liw dydd. Yr oedd yn rhan o waith yr ysgolfeistriaid dyddiol symudol i gadw Ysgol Sul ymhob ardal lle yr arhosent. Cadwai yntau Ysgol Sul yn Llangollen, ac ymwthiai i'r wlad o amgylch gyda'r gorchwyl hwn, lle bynag y rhoddid drws agored iddo, a gwnelai ymdrech eilwaith ac eilwaith i gael y drws i agor. Adroddir am dano yn myned i Glyndyfrdwy un. Sabboth i geisio sefydlu Ysgol Sul yno y diwrnod hwnw. Ond ni thyciodd ei genadwri; dywedai y bobl na ddaethai. yr amser eto iddynt hwy weled angen am Ysgol Sul. Aeth yno drachefn y Sabboth dilynol, gan obeithio a gweddio ar hyd y ffordd, os na roddid derbyniad iddo i unrhyw dŷ, y rhoddid caniatad iddo i gynal ysgol yn yr awyr agored. Er ei syndod, yr oedd drysau lawer wedi agor erbyn yr ail ymgais o'i eiddo, a pharodrwydd hefyd i'w gynorthwyo yn y gorchwyl, ac felly y dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yn Glyndyfrdwy.
Bu yn cadw ysgol gylchynol wedi hyny yn Llanelidan, yn ardal Melin-y-coed, ac yn Ngherrigydruidion. Yn y lle olaf a enwyd, ryw nos Sabboth wrth gadw seiat gyda'r plant a'r bobl ieuainc, torodd allan yn orfoledd mawr. Cyfarfod arbenig gyda'r plant ar eu penau eu hunain ydoedd hwn yn ddiameu. Ni chaniateid i'r plant gael bod yn y seiat gan yr hen Fethodistiaid hyd nes oedd wedi cyraedd dipyn ymlaen i'r ganrif bresenol. Y rheswm dros gau y plant allan ydoedd, rhag iddynt gario allan i'r byd yr hyn a ddywedid ac a wneid yn y seiat. Rywbryd tuag amser Diwygiad Beddgelert y dechreu-