Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyd gadael i'r plant fynychu y cyfarfodydd eglwysig. Pan oedd Humphrey Edwards yn ei dro yn Llandrillo, daeth lliaws o blant bychain ato i ofyn a gaent hwy ddyfod gydag ef i'r seiat. "Wel," meddai, "deuwch gyda mi at y capel, gofynaf finau i'r blaenor a gewch chwi ddyfod." "Gollyngwch y pethau bychain anwyl i mewn, Humphrey," ebai yntau. Ac yn bur fuan wedi iddynt fyned i mewn, torodd allan yn orfoledd ymhlith hen ac ieuainc. Fel yr oedd yn holi y plant yn Llanelidan un tro, digwyddodd iddo ofyn y cwestiwn, Paham yr oedd yr Arglwydd yn drugarog wrth bechaduriaid annheilwng? "Er ei fwyn ei Hun," atebai rhyw fachgen bychan, "oherwydd fod ei drugaredd yn parhau yn dragywydd." Gyda bod yr atebiad dros enau y bachgen, disgynodd yr awel nefol ar yr holl gynulleidfa. Cofiai yr hen wr gyda hyfrydwch tra fu byw am y tro hwn.

Digwyddodd tro hynod tra yr oedd yn cadw yr ysgol yn Glanyrafon, ardal yn agos i Gorwen. Yr oedd amryw of drigolion yr ardal hon yn ei wawdio am ei fod yn cadw seiat plant. Cyn hir, pa fodd bynag, cymerodd digwyddiad le a roes daw bythol ar y cyfryw wawd. Fel yr oedd Miss Grace Jones, Llawr y Bettws (wedi hyny priod y Parch. John Hughes, Liverpool), yn adrodd y seithfed Salm wedi'r cant, pan ddaeth at y geiriau, "Efe a dorodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barau haiarn," hi a dorodd allan i waeddi a gorfoleddu, a syrthiodd i lawr fel pe buasai mewn pêr-lewyg. Cafodd hyn y fath effaith ar y gynulleidfa fel yr aethant oll yn foddfa o ddagrau, a'r fath ydoedd y dylanwad, pan y cododd yr eneth i fyny i adrodd y gweddill, nad anghofiwyd mo'r tro tra y bu y genhedlaeth hono byw. Dyma ddechreuad diwygiad grymus a dorodd allan yn yr ardaloedd cylchynol. Llawer o ddigwyddiadau cyffelyb a adroddir ynglyn a hanes. bywyd Humphrey Edwards, neu fel y gelwid ef ymhell cyn diwedd ei oes, yr hen Humphrey Edwards. Ysgolfeistr ysgol