ddyddiol symudol ydoedd; i addysgu plant yn ddyddiol yn elfenau gwybodaeth y cyflogid ef i fyned i'r gwahanol ardaloedd. Parhaodd yn y gwaith chwarter canrif wedi diwedd oes Mr. Charles, ei gyflogydd cyntaf. Ond er mai dyna oedd gorchwyl ei fywyd, nid am ei ysgolheigdod y mae coffa, nac am nifer y plant a lwyddodd i'w hanfon trwy yr arholiadau, ond am ei grefyddoldeb, ac am ei ddylanwad dihafal er moesoli a chrefyddoli y rhanau o'r wlad y bu byw ynddynt. Dyn eiddil o gorff ydoedd, a gwael yr olwg arno, ac afrwydd a hwyrdrwm ei ymadrodd; ond oherwydd ei grefyddoldeb dwfn, hysbys trwy yr holl wlad, meddai ddylanwad difesur ar bob graddau o ddynion. Dyma lle yr oedd cuddiad ei gryfder, a dyma lle yr oedd cuddiad cryfder holl athrawon mwyaf llwyddianus Mr. Charles.
Yr oedd amseroedd Humphrey Edwards yn amseroedd. tywyll a phaganaidd. Rhydd hanes ei fywyd ef lawer o oleuni ar amgylchiadau ei oes. Dilynai gwerin Cymru arferion ffol a phechadurus. Chwareuon a'r drygau cysylltiedig â hwy oedd y pla difaol yn yr amseroedd hyn. Dyma pryd yr oedd chwareu yn ei fri—hen ac ieuanc, tlawd a chyfoethog, offeiriaid a phobl yn chwareu—yn eu hafiaeth yn chwareu ar ddydd yr Arglwydd. Yr oedd y wlad wedi ei phaganeiddio trwy y chwareuon. Byth er pan oedd Charles I., yn y flwyddyn. 1633, trwy ddylanwad yr esgobion, wedi pasio cyfraith fod yn rhaid darllen "Llyfr y Chwareuon" yn yr eglwysi ar y Sabbothau, daeth pla y chwareu yn ail natur i holl drigolion Cymru. Ni lwyddodd dim byd yn well er dieithrio gwlad oddiwrth grefydd. Parhaodd dylanwad y gyfraith hono yn ei heffeithiau yn agos i 200 o flynyddau, hyd nes daeth yr Ysgol Sabbothol a'r diwygiadau crefyddol i ladd eu dylanwad o radd i radd. Defnyddiodd yr Arglwydd Humphrey Edwards yn offeryn yn ei law i roddi terfyn, trwy gyrion tair o siroedd Cymru, ar y chwareuon llygredig hyn ar y Sabboth. Yr oedd