yn arferiad yn Melin—y— Wig gan bob graddau o'r trigolion it ymgasglu at eu gilydd i guro bowliau (chwareu nad yw yn rhoi difyrwch i neb ond plant yn awr) ar ddydd yr Arglwydd. Ryw ddydd Sadwrn, heb ddweyd yr un gair wrth neb, ym— gymerodd yr hen ysgolfeistr duwiol à dryllio'n llwyr holl offerynau yr oferedd hwn; a phan ddaeth yr oferwyr ynghyd dranoeth, a chanfod offerynau eu difyrwch wedi en dinystrio, ni feiddiodd neb godi yn erbyn y dinystrydd, gymaint oedd ei arswyd ar ddynion annuwiol y wlad.
Nodwedd arall ar ei amseroedd ef ydoedd, ymladdfeydd chwerwon a chreulon rhwng gwahanol bersonau a phartïon, ac yn aml rhwng dwy ardal â'u gilydd, y rhai a ddibenent mewn tywallt gwaed, ac ar brydiau mewn colli bywydau. Y mae hanesion am yr hen bererin yn rhoddi terfyn ar yr ymladdfeydd, ac yn gwasgaru y cwerylwyr trwy ei dduwiolfrydedd argyhoeddiadol syml. Gwr oedranus o Ddinbych, yn awr yn 91 mlwydd oed, a edrydd yr hanesyn canlynol:—"Yr oedd Humphrey Edwards, un o athrawon Mr. Charles, o'r Bala, mewn trwbwl mawr droion, fel yr wyf yn cofio yn dda. Unwaith, pan yr oedd dau ddyn wedi ymrwymo i ymladd gornest (duel) ar fynydd Hiraethog, aeth Humphrey Edwards i'r Bala i ofyn i Mr. Charles am ei gyngor. Gofynodd Mr. Charles iddo a oedd yn gwybod am yr amser, a'r lle, ar y mynydd yr oeddynt i gyfarfod. Ydwyf,' meddai Humphrey Edwards.
'Wel,' ebe Mr. Charles, 'peidiwch a dweyd gair wrthynt, ond ewch eich hunan cyn yr amser penodedig i'r lle y maent i gyfarfod, a gorweddwch yn y grug, a phan y byddant yn barod i ymladd, codwch yn sydyn, ac ewch atynt.' Felly y gwnaeth, ac aeth y ddau ymaith heb daro dyrnod! Oherwydd presenoldeb yr hen Gristion, yr oedd cymaint o'i ofn ar yr annuwiolion." Y mae hanes hefyd am nifer o ddynion wedi syrthio allan â'u gilydd yn Bettws-gwerfil-goch, y rhai i'r diben o benderfynu yr ymrafel, a benodasant ar le ac amser ar fynydd.