Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YSGOLFEISTRIAID MR. CHARLES

O'R BALA.

——————♦——————

PENOD I.

——————

CAN MLYNEDD YN OL.

Yr Ysgolion Cylchynol yn dechreu yn 1785—Y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn "Seren fore y Diwygiad "—Y cynorthwyon at yr Ysgolion—Dyled y Cymry i'r Saeson—Cyflog yr Ysgolfeistriaid—Llythyr ynghylch eu llwyddiant—Byr olwg ar lafur 20 mlynedd—Hen ysgrifau Lewis William, Llanfachreth—Llythyr Mr. John Jones, Penyparc, o berthynas i'r Ysgol Gylchynol

MAE crybwyllion wedi eu gwneuthur ddeuddeng mlynedd yn ol, mewn cysylltiad â chyfarfodydd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a thrachefn tra yr oeddid yn galw sylw arbenig at hanes y Cyfundeb ar ben ei Drydedd Jiwbili, at y cyfryngau a ddefnyddiodd Mr. Charles o'r Bala, ac a fendithiwyd mor neillduol gan Ragluniaeth, i beri diwygiad tra mawr mewn gwybodaeth a chrefydd trwy amrywiol Siroedd Cymru. Un o'r cyfryngau, a'r cyntaf oll mewn trefn yn gystal ag amser, ydoedd yr Ysgolion Dyddiol Cylchynol. Tra mae hanes dechreuad a chynydd yr Ysgolion Sabbothol bellach yn weddol hysbys, nid ydyw hanes yr ysgolion hyn, a'r daioni a gynyrchwyd drwyddynt, mor hysbys ag a fyddai yn fuddiol. Er cael syniad oreu gellir am gynydd yr Ail Gyfnod yn hanes y Cyfundeb, ac er deall y sefyllfa fel y dywedir ar bethau y pryd hwnw, da fyddai pe ceid gwybod tipyn ychwaneg am y gweith-