Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

redoedd daionus a wnaeth Mr. Charles trwy gyfrwng yr Ysgolion Rhad Cylchynol.[1]

Y mae addysg erbyn y dyddiau hyn yn boblogaidd—Addysg Elfenol, Ganolraddol, Uwchraddol, Athrofaol—rhaid cael addysg bellach cyn y bydd meibion a merched yn gymwys i droi allan i'r byd. Nid oes obaith i enill bywioliaeth gysurus, nac i fod yn ddefnyddiol mewn unrhyw gylch o gymdeithas, heb gael addysg. Nid yw yn bosibl i rinwedd na chrefydd wreiddio yn y ddynoliaeth heb ryw gymaint o hyfforddiant pan yn ieuanc. Ond mor hynod o dywyll ac anwybodus oedd hynafiaid yr oes oleu hon! Ac heb symud y caddug o dywyllwch yn gyntaf, a rhoddi graddau o oleuni gwybodaeth i drigolion y wlad, oeddynt gan' mlynedd yn ol i fesur mawr yn baganaidd, anhawdd, a nesaf peth i anmhosibilrwydd, oedd eu troi oddiwrth arferion drygionus, a'u hofer ymarweddiad. Gwelodd Mr. Charles hyn, a theimlodd i'r byw fod cyflwr ei gydgenedl mor resynus o isel. Ac ar unwaith mae yn rhoddi cynlluniau ar waith i wella cyflwr y wlad. Beth oedd natur, a chynllun, ac eangder yr ysgolion y mae genym hanes am danynt yn y cyfnod hwn? Pwy oedd yr ysgolfeistriaid fu yn ngwasanaeth Mr. Charles? Beth fu maint y daioni a gynyrchwyd trwy offerynoliaeth yr ysgolion? Ceisio rhoddi rhyw fath o atebiad i'r cyfryw gwestiynau fydd amcan y sylwadau dilynol.

Ychydig ydyw y pellder rhwng amser dechreuad yr Ysgolion Cylchynol a'r Ysgolion Sabbothol. Yn hytrach, rhoddwyd cychwyniad i'r naill a'r llall yr un adeg, sef yn 1785, y flwyddyn yr ymunodd Mr. Charles a'r Cyfundeb. Yr un oedd yr angen am y naill a'r llall, a'r un oedd yr amcan i ymgyrhaedd ato trwy y naill fel y llall. Y gwir amcan ydoedd dysgu

plant a phobl Cymru i ddarllen ac i ddeall y Beibl yn yr iaith

  1. Dechreuwyd anfon y Penodau hyn ar Hen Ysgolfeistriaid Mr. Charles i'r Drysorfa yn y flwyddyn 1893, tra yr oedd cyfarfodydd newydd gael eu cynal trwy y wlad er cof am Drydydd Jiwbili y Cyfundeb.