Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD X.

JOHN JONES, PENYPARC, AC ERAILL.

Thomas Meredith, Llanbrynmair—Abraham Wood—Llanfairpwllgwyngyll yn Mon—Mari Lewis, yr Ysgolfeistres—Bore oes John Jones, Penyparc —Owen Jones, y Gelli—John Jones, y Blaenor cyntaf—Ysgrifenydd cyntaf y Cyfarfod Ysgolion—Ei lythyrau ar faterion yr Ysgol Rad— Y Cyfarfodydd Ysgolion yn cychwyn gyntaf yn Bryncrug—Deddfroddwr cyntaf Sir Feirionydd—Ei Goffadwriaeth.

UN arall a dreuliodd ei oes yn un o'r Ysgolfeistriaid heb ddyfod yn bregethwr ydoedd John Jones, Penyparc, Bryncrug, yr hwn a fu yn un o'r dynion pwysicaf, am yr haner. cyntaf o'r ganrif hon, ymhlith y Methodistiaid yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Ond cyn rhoddi bras-ddarluniad o hono ef a'i waith, y mae dau neu dri eraill o'r Ysgolfeistriaid yn galw am goffad.

Thomas Meredith, o Lanbrynmair, oedd un o'r rhai fu yn ngwasanaeth Mr. Charles yn cadw yr Ysgol Rad. Yr oedd efe hefyd yn bregethwr melus a chymeradwy. Bu Llanbrynmair yn enwog am ei chrefyddwyr a'i phregethwyr ymhlith yr Ymneillduwyr er dyddiau Howell Harris. Fel hyn y dywedir yn Methodistiaeth Cymru, yn yr hanes am Carno, am deulu Thomas Meredith:—"Tua'r flwyddyn 1767, daeth gwr o Lanbrynmair i fyw i'r plwyf hwn. Yr oedd efe a'i wraig yn rhai amlwg iawn mewn crefydd a duwioldeb, fel y bu eu plant a'u teuluoedd ar eu hol. Mab iddynt hwy oedd Thomas Meredith, yr hwn a fu yn bregethwr parchus a defnyddiol dros lawer o flynyddoedd, a'r hwn hefyd a fu yn cadw Ysgol Rad dan olygiad Mr. Charles." Bu yn cadw yr ysgol yn Cemmaes, ac yn Gilfach-y-Rhew, rhwng Carno a Llanwnog, a manau