eraill. Yr oedd yn gefnder i Gwilym Williams, Pentre mawr, Llanbrynmair, ac yn gefnder hefyd i Abraham Wood, Fronderwgoed, o'r un lle. Yr oedd Abraham Wood yn bregethwr yn nyddiau Williams, Pantycelyn. Canodd Williams iddo ef a'i fam,—
"Prin y gwelwyd dyn fwy gonest,
Dyn fwy syml îs y rhod;
Gwell ei gof, llareiddiach ei natur,
Nemawr iawn nid oedd yn bod:
Chwiliwch allan bwyll, amynedd,
A diwydrwydd ysbryd gwiw,
Abra'm oedd yn berchen arnynt,
Gymaint un a neb yn fyw."
Bu Abraham Wood yn efrydydd yn Ngholeg Lady Huntington. Ymddengys ei fod ef a'r Arglwyddes yn lled gydnabyddus. a'u gilydd; a dywedir iddi fyn'd yn dywyll ar Abraham pan yn pregethu un tro yn ei phresenoldeb hi ac eraill, ac i'r Iarlles waeddi dros y lle, "Go to Calvary, Abraham,—go to Calvary!" a phan y gwnaeth y cyngor, daeth yn oleuni arno yn y fan. Ymysg papyrau anghyhoeddedig John Hughes, Pont—robert, cafwyd ychydig nodiadau coffadwriaethol am Thomas. Meredith, y rhai a ddywedant iddo fod yn pregethu am 31 mlynedd, fod ei athrawiaeth a'i fuchedd yn gymeradwy iawn gan y saint, ac iddo farw yn y flwyddyn 1811. Dywedir yn Nghofiant y Parch. Thomas Richards, Abergwaen,—"Daethum i Garnachwen y noswaith hono; gwrandewais Thomas Meredith; cawsom gyfeillach dra buddiol." Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1806. Mor ddiweddar a Mehefin 28ain, 1895, y bu farw merch i Thomas Meredith, Mrs. Mary Jones, yn 84 oed, yn nhŷ ei mab, Mr. Thomas Jones, Brynbach,. Llanbrynmair. Yr oedd yn wraig barchus a chrefyddol.
Ychydig o hanes yr Hen Ysgolfeistriaid yn Sir Gaernarfon. a Mon sydd ar gael. Mae yn debyg na bu llawer o honynt. yn y ddwy sir hyn. O leiaf, dyna y casgliad y deuir iddo,