Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan nad oes hanes am danynt i'w gael. Ceir yr hanes canlynol yn Methodistiaeth Cymru, yn ei adroddiad am achos crefydd yn Llanfairpwllgwyngyll, yn Mon:—"Oddeutu yr amser y dechreuodd Rhisiart Morris gynghori ei gydwladwyr yn gyhoeddus, sef tua 60 mlynedd yn ol (1794), daeth un Richard Evans i'r gymydogaeth i gadw ysgol ddyddiol Gymreig, feallai trwy anfoniad Mr. Charles. Yr oedd y gwr hwn yn ddyn duwiol a llafurus iawn gyda'r gorchwyl a osodwyd iddo; a bu yn dra defnyddiol, nid yn Llanfair yn unig, ond hefyd mewn llawer o ardaloedd eraill. Ar ei ddyfodiad i'r ardal hon, aeth ef a Rhisiart Morris trwy yr ardal i ymweled â phob ty, gan erchi ar iddynt ddyfod i'r capel ddwy noswaith yn yr wythnos i ddysgu darllen Cymraeg; y byddai yn dda ganddynt eu gweled, ac y gwnaent a allent i'w dysgu a'u cyfarwyddo. Llwyddasant hefyd gyda lliaws o'r cymydogion, ac ymysg eraill y dyn a fuasai gynt yn gwatwar; addawodd hwn ddyfod i gadw y drws rhag dim aflonyddwch."

Un tro, tra yn holwyddori yr ysgolorion am fywyd ac angau Iesu Grist, a thra yn canu penill, torodd allan yn orfoledd mawr. Mae hyn yn cytuno â'r hanes a geid yn fynych am Ysgolfeistriaid Mr. Charles, oblegid dynion duwiol ac ymroddedig gyda chrefydd a gyflogai efe i fod yn Ysgolfeistriaid.

Yn y cyfnod y bu Mr. Charles yn cario ymlaen yr Ysgolion Rhad Cylchynol, defnyddid ganddo yr offerynau fyddent. fwyaf tebyg o adael argraff grefyddol ar blant yr ardaloedd. Digon tebyg iddo alw rhai gwragedd at y gorchwyl hwn. Y mae genym hanes pendant am un o'r enw Mari Lewis fu yn gyflogedig ganddo, yr hon oedd athrawes gyntaf yr hen bregethwr cymeradwy a phoblogaidd, y Parch. Dafydd Rolant, y Bala. Dyma fel y dywedir yn ei Gofiant, gan y Parch. O. Jones, B.A.,—"Yr ysgol gyntaf y bu ynddi oedd yr un a gadwai Mari Lewis. Yr oedd y wraig hon yn un o'r rhai yr oedd Mr. Charles yn eu cynal yma a thraw ar hyd y