Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wlad i gadw yr ysgolion dyddiol; byddent yn cael eu symud. ganddo o'r naill ardal i'r llall, yn ol fel y byddai yr angen, a gwnaethant les dirfawr. Bu Mari Lewis yn athrawes dda a ffyddlawn am lawer o flynyddoedd, ac mewn amryw ardaloedd: bu yn ardaloedd Cynllwyd, y Parc, Talybont, a Chefnddwysarn, lle y bu byw ei blynyddoedd olaf. Bu farw tua phum' mlynedd yn ol (sef oddeutu 1858), a gwnaeth les mawr yn ei hoes. Yn yr ysgol hon, pan y cedwid hi yn Pant-y-neuadd, y dywed un o'i gyfoedion iddo weled Deio, Cwmtylo, gyntaf, yn blentyn saith neu wyth mlwydd oed, bochgoch, diniwed yr olwg arno, yn droednoeth, goesnoeth. Peidied neb a meddwl mai ysgol wael oedd hon, am mai gwraig oedd. yr athrawes. Na, y mae genym bob lle i gasglu mai ysgolfeistres dda oedd Mari Lewis; a dysgai, nid Cymraeg yn unig, ond Saesneg ac ysgrifenu hefyd, os nad oedd yn dysgu cymaint o rifyddiaeth ag oedd galwad am dano. Arferai a gweddio ar ddiwedd yr ysgol, er mai gwraig oedd, at yr hyn. yr oedd y plant yn synu yn fawr."

Dywed y Parch. Dr. Owen Thomas fod John Jones, Penyparc, yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles. Mae yn hysbys ddigon ddarfod iddo ef fod yn ysgolfeistr o gryn bwysigrwydd am faith flynyddoedd, ond nid ydyw ei gysylltiad â'r ysgolion symudol yn llawn mor amlwg. Arferid edrych arno yn nghylchoedd ei gartref fel un yn cadw ysgol o'i eiddo ei hun yn ei ardal enedigol yn Bryncrug. Yno yr oedd ei gartref, ac yn yr ardal hono y bu yn byw ar hyd ei oes. Yr oedd yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr Ysgolion Cylchynol, a chymerai ran gyda'r brodyr yn trefnu cylch yr ysgolion ar ol marw Mr. Charles. Dichon iddo fod yn eu cadw yn bersonol. ei hun. Yr oedd, fodd bynag, yn gohebu & Mr. Charles, ac yr oedd hefyd yn gynghorwr iddo ar faterion yr ysgolion. Ffermdy ydyw Penyparc, o fewn chwarter milldir i bentref Bryncrug, ac o fewn dwy filldir i Dowyn Meirionydd. Mab