Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Castle, Dover, a Penzance (Cornwall), a dychwelasant yn ol i'r Bala. Yna rhyddhawyd hwy bawb i'w cartref, gan iddi fyned yn heddwch. Daliodd afael yn ei grefydd yn ei holl grwydriadau, a mwy na hyny, rhybuddiodd a chynghorodd lawer ar ei gymdeithion digrefydd, fel y rhybuddiai Paul ei gyd-forwyr ar ei daith i Rufain. Yn union ar ol ei ryddhad aeth i Gemaes i orphen ei ymrwymiad fel prentis o grydd. Oddiyno symudodd dros ysbaid byr i Aberdyfi, ac ymhen ychydig cyflogodd am haner blwyddyn i weithio ar y tir yn Closbach, Llanegryn. Dywed ef ei hun mai dyma y lle agosaf iddo golli ei grefydd o un man y bu, oherwydd nad oedd dim crefydd yn y teulu.

Y lle nesaf yr ydym yn ei gael ydyw yn gweini gyda pherthynasau iddo yn y Trychiad, wrth ymyl pentref Llanegryn. Gwnaeth ymrwymiad yn ei gyflogiad y tro hwn i gael myned i addoli i'r lle yr ewyllysiai. Teimlai yn ddwys dros anwybodaeth ieuenctyd Llanegryn, a phenderfynodd sefydlu Ysgol ar y Sabboth, a rhai nosweithiau yn yr wythnos, i'w dysgu i ddarllen. Ni wyddai ddim am Ysgol Sabbothol, ond dichon iddo glywed am un pan yn y Bala am ysbaid byr gyda'r Militia, a chlywsai hefyd fod ei gymydog, John Jones, Penyparc, yn cadw Ysgol Sul yn Bryncrug. Ni chawsai yr un diwrnod o ysgol, ac nis gallai ddarllen dim ei hun. Anturiodd, modd bynag, i geisio cael ieuenctyd Llanegryn i wneuthur yr hyn nis gallai wneyd ei hun. Y cyfryw ydoedd ei sel a'i boblogrwydd gyda'r plant fel y tyrent ato i gael gwersi ganddo. Dysgai y wyddor i'r rhai lleiaf, trwy eu cael oll i'w chydganu ar y dôn "Ymgyrch Gwyr Harlech," a ddysgasai ei hun pan gyda'r Militia ychydig flynyddau yn flaenorol. Y mae hanes am y cenhadwr enwog, Robert Moffat, yn defnyddio yr un cynllun gyda Phaganiaid Affrica; dysgodd yntau y wyddor Saesneg iddynt hwy trwy eu cael i'w chanu ar dôn genedlaethol Ysgotland, "Auld Lang Syne." Ond ymhen deugain