byniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai y penaf ydwyf fi." "Dyma y dydd," meddai, "yr agorwyd fy llygaid i weled fy ngholledigaeth, ond diolch byth! i weled Ceidwad hefyd, ac o hyny hyd yn awr nid wyf wedi colli fy ngolwg ar y naill na'r llall."
Ymhen tuag wythnos wedi yr adeg a nodwyd yr ydym yn ei gael yn penderfynu cynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid a ymgynullai mewn ty anedd yn Nghwmllinau. Y mae ganddo haner coron yn ei feddiant, a llawn fwriada roddi hwnw am gael myned i'r seiat. "Ar nos y society y mae yn myn'd at ddrws y ty lle y cyfarfyddid. Mae yn sefyll yno am ysbaid mewn cyfyng-gyngor. O'r diwedd anturia daro y drws â llaw grynedig. Wele frawd yn agoryd—
"Beth sy' arnat ti eisio yma, 'machgen i?"
"Eisio dwad i'r seiat, os ca' i; dyma i ch'i haner coron-y cwbl sy' gen' i yn y byd—am gael dwad, os ca' i."
"Dwad, 'machgen anwyl i, cei; cadw dy haner coron; cei groeso calon gyda ni am ddim."
Gofynwyd iddo yn y cyfarfod, "Beth pe b'ai Iesu Grist yn ceisio gen' ti wneyd rhywbeth drosto yn y byd, a wnaet ti hyny?"
"O! gwnawn yn y fan, beth bynag a geisiai Iesu Grist gen' i."
Rees Lumley, Dolcorslwyn, oedd y gwr a ofynodd y cwestiwn hwn iddo, a gofynodd ef ddwy neu dair gwaith mewn gwahanol ffyrdd. Ei atebiad i'r cwestiwn hwn y noswaith yr ymunodd âg eglwys Dduw ydyw yr allwedd i holl hanes ei fywyd "Gwnawn yn y fan beth bynag a geisiai Iesu Grist." Teimlai ar hyd ei oes ei rwymedigaeth i wneuthur yr hyn a allai gyda chrefydd, ac fe'i gwnaeth.
Yn fuan ar ol ei ymuniad â chrefydd yn ardal y Cemaes, galwyd arno at y Militia drachefn yn ol ei ymrwymiad. Bu yn crwydro gyda hwy, fel y dywed ei hun, yn Sandown