Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anfonai ei chwyn at y plwyf, sef Dolgellau, ac nid wyf yn gwybod iddi gael ei gomedd erioed o'r hyn a geisiai. Ni bu yn cael dim yn benodol o'r plwyf, ond byddai yn cael rhoi ei hachos yn Eglwys Dolgellau i geinioca iddi. Byddai yn cael cymaint a 10s. ac o hyny i 15s. lawer tro mewn modd o ewyllys da." Pan oedd yn 16 oed, ymunodd Lewis William. a Militia Sir Feirionydd, yn amser "Rhyfel Buoneparte." Wedi ei ryddhau am dymor oddiwrth y rwymedigaeth hon dychwelodd adref, a phrentisiwyd ef yn grydd gydag un John Jones, o'r Cemaes, Sir Drefaldwyn. (Nid yw yn rhoddi dim. o hanes ei deulu ar ol hyn).

Tra yn aros yn Cemaes y pryd hwn, yn llanc tua 18 oed, yr argyhoeddwyd ef, ac y bwriodd ei goelbren ymysg pobl yr Arglwydd. Casglwyd defnyddiau hanes ei fywyd oddiwrth ei bapyrau ysgrifenedig, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifenodd Mr. R. O. Rees, Dolgellau, am dano mewn cysylltiad â Chofiant Mary Jones—gwybodaeth a gawsai y gwr hwnw o'i enau ef ei hun. I Mr. Oliver Rees, yn benaf, y mae hanes ei droedigaeth, a'i gyflogiad gan Mr. Charles, yn nghyda digwyddiadau ei ddyddiau diweddaf, i'w priodoli. Heb yn wybod yn hollol iddo ei hun teimlai awydd i ymuno â chrefydd, ond ofni a chilio yn ol y byddai. "Bum lawer tro wrth ddrws yr addoldy, yn benderfynol o fyned i mewn i'r cydgynulliad, ond yn methu, ac yn troi yn fy ol tua chartref." Mewn cyfarfod. gweddi yn Ty Uchaf, Mallwyd, ar foreu Sabboth, yn gwrando— ar Mr. Jones, Mathafarn, wedi hyny Dolfonddu, yn darllen Rhuf. v., ac yn esbonio rhanau o'r benod, pan y darllenai y geiriai, "Megys trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad," cafodd olwg yn y fan arno ei hun yn golledig. Syrthiodd i lewyg a chariwyd ef allan fel un marw. Aeth erbyn dau o'r gloch, wedi iddo ddyfod ato ei hun, i wrando pregeth i Mathafarn. Y geiriau fu yn foddion i beri iddi oleuo arno oeddynt, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob der-