Fel hyn yr ysgrifena y diweddar Mr. R. O. Rees, Dolgellau, am hynodrwydd Lewis William:—"Hynodrwydd mewn sêl angerddol, mewn llafur diorphwys, mewn ffyddlondeb diarebol, a defnyddioldeb cyffredinol yn ngwasanaeth ei Dduw a'i gyd-ddynion. Gall ei hanes roddi rhyw syniad mor hynod oedd rhai o'r offerynau a ddefnyddiodd Duw mewn oesau blaenorol i wneyd Cymru yr hyn ydyw yn yr oes freintiedig hon. Dyn bychan oedd Mr. Lewis William ymhob ystyr naturiol—bychan ei gorff, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau. Ond pob gewyn yn ei gorff bychan, a phob cyneddf a dawn yn ei enaid llai, gwelid yr oll yn eu llawn waith yn wastadol mewn rhyw lwybr neu gilydd yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i Dduw."
Ganwyd Lewis William mewn bwthyn bychan, o'r enw Gwastadgoed, yn ardal Pennal, Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1774—Nid oes gareg ar gareg o'r ty hwn yn aros er's llawer blwyddyn. Ond os ä y darllenydd rywbryd o bentref Pennal, ar hyd y ffordd fawr, oddeutu milldir i gyfeiriad Aberdyfi, wedi pasio ysgoldy presenol y Bryniau yn nghwr pellaf y cae y saif yr ysgoldy ynddo, bydd yn myned heibio mangre genedigaeth gwr na flina pobl Gorllewin Meirionydd ddim yn son am dano. Enw ei dad oedd William Jones, a'i fam Susan Jones—y ddau yn dlodion ac heb fedru gair ar lyfr. Pan oedd yn ddwy flwydd oed, symudodd ei rieni i'r Hen Dy, yn agos i'r Henfelin Aberdyfi, ac ymhen y flwyddyn drachefn symudasant i'r Hafod, oddeutu tair milldir o Dowyn. Bu farw ei dad pan oedd ef yn bedair oed, a gadawyd yntau a'r plant eraill gyda'u mam weddw.
Rhydd Lewis William, yn ei bapyrau ysgrifenedig, ddarluniad o ddull y wlad o fyw pan oedd ef yn blentyn, ac ymysg pethau eraill y modd y llafuriai ei fam i fagu y plant,— "Byddai yn gwneuthur cymwynasau i'r cymydogion," meddai, "ac yn cael ei thalu yn bur dda, a phan elai yn gyfyng iawn,