Penyparc. Mewn ymddiddan ar fater yr ysgolion, gofyna Mr. Charles i John Jones a wyddai ef ddim am yr un dyn ieuanc arall a wnai y tro i fod yn un o'i ysgolfeistriaid? Atebai yntau fod rhyw ddyn ieuanc yn Llanegryn yn llafurus iawn i addysgu y plant, ond nas gallai ddarllen ei hun.
Dyn ieuanc yn addysgu plant i ddarllen, heb fedru darllen ei hun?" gofynai Mr. Charles. "Felly maent yn dweyd," oedd yr ateb. Methai Mr. Charles a deall hyn, er cymaint ei ddyfeisiadau. Ar ol ychydig siarad pellach, fodd bynag, anfonodd am y dyn ieuanc i ddyfod i'w gyfarfod i Abergynolwyn dranoeth. Daeth Lewis William yno, a'i wisg a'i wedd yn wladaidd, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt:
"Wel, 'machgen i, y maent yn dyweyd dy fod di yn cadw ysgol yn Llanegryn acw ar y Sabbothau a nosweithiau yr wythnos, i addysgu y plant i ddarllen. A oes llawer o blant yn dyfod atat ti i'r cyfarfodydd ?"
"Oes, syr, fwy nag a allaf eu dysgu nhw, syr."
"A ydyn nhw yn dysgu tipyn gen' ti?"
"'Rydw i'n meddwl fod rhai o honyn' nhw, syr."
A fedri di dipyn o Saesneg ?"
"Fedraf fi ddim ond ambell air a glywais i gyda'r Militia, syr."
"A fedri di ddarllen Cymraeg yn dda?"
"'Fedra i ddarllen bron ddim, syr; ond 'rydw i'n ceisio dysgu 'ngora', syr."
"A fuost ti ddim mewn ysgol cyn dechreu gweini?"
"Naddo, syr; che's i ddiwrnod o ysgol erioed, syr."
"A fyddai dy dad a dy fam ddim yn dy ddysgu i ddarllen gartref?"
"Na fyddan', syr; fedrai nhad na mam ddarllen yr un gair eu hunain, syr."
Agorai Mr. Charles y Beibl ar y benod gyntaf o'r Epistol at yr Hebreaid, a dymunai arno ddarllen yr adnodau blaenaf.
{{nop}]