Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Duw we—wedi iddo—le—lefaru la—lawer gwaith, a llawer modd, gynt wrth y tad—au, trwy y pro—proph— (prophwydi, sisialai John Ellis, o'r Abermaw—un arall o'r ysgolfeistriaid yn ei glust o'r tu cefn iddo) yn y d—ydd—iau. —di—wedd—af hyn a le—lefarodd wrth—ym ni yn ei Fab,—"

"Dyna ddigon machgen i, dyna ddigon. Wel! sut yr wyt ti yn gallu addysgu nebi ddarllen, mae tu hwnt i fy amgyffred i. Dywed i mi, 'machgen i, sut yr wyt ti yn gwneyd i addysgu y plant acw i ddarllen."

Rhoddodd yntau iddo fanylion y dull a gymerai—y cyd— ganu yr A, B, C, y gwersi parotoawl gyda Betti Ifan—ymryson darllen bechgyn y Grammar School—y chware soldiers bach, &c. Ar anogaeth Mr. Charles, aeth i'r ysgol am tua chwarter blwyddyn at John Jones, Penyparc, tua dwy filldir o Lanegryn. Yr oedd John Jones yn un o'r ysgolfeistriaid. cyflogedig, ac yn fwy o ysgolhaig na nemawr neb y pryd hwnw; a dyna yr oll o addysg ddyddiol a gafodd Lewis William. Gwnaeth un ymdrech ychwanegol hefyd i ddyfod yn ddarllenwr. Clywsai lawer gwaith mai rhagoriaeth uchaf darllenyddiaeth oedd gallu darllen "fel parson." Gymaint oedd ei awydd i ddyfod yn ysgolfeistr o dan Mr. Charles, fel yr elai yn fynych i Eglwysi Llanegryn a Thowyn i glywed y "parson" yn darllen.

Y canlyniad fu i Mr. Charles ei gyflogi, yn y flwyddyn 1799, i fod yn athraw i'w ysgolion, am bedair punt y flwyddyn o gyflog; a dyma ddechreuad ei yrfa lwyddianus fel ysgolfeistr. Nid hawdd yw penderfynu, pa un ydyw y ffaith hynotaf, anturiaeth a dyfalbarhad Lewis William yn ymgymeryd â'r fath waith o dan y fath amgylchiadau, ynte craffder pelldreiddiol Mr. Charles i weled yn yr hwn a gyflogai y pryd hwn ddefnyddiau dyn defnyddiol, i ddysgu plant a phobl anwybodus Cymru mewn amseroedd tywyll. Oes y prawf a'r arholiadau, ac oes yr hogi crymanau ydyw yr oes hon, ond